Mae Academi Rygbi Coleg Caerdydd a'r Fro yn Bencampwyr Ysgolion a Cholegau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol, ar ôl dod i frig y tabl ac ennill Rownd Derfynol y Cwpan eto eleni.
Llwyddodd yr Academi i gipio'r Cwpan yn dilyn gêm gyffrous yn erbyn Coleg Sir Gâr ym Mharc y Scarlets, a gafodd ei ffrydio'n fyw ar S4C.
Roedd hi'n gêm gyffrous, gyda CAVC yn colli 30-20 yn y pum munud olaf, ond fe wnaethant daro'n ôl ac ennill 35-30.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi CAVC, Martyn Fowler: “Anaml iawn mae tîm yn ennill cystadleuaeth Cynghrair a Chwpan, ond mae gwneud hynny ddwywaith yn olynol yn dangos bod y Rhaglen Perfformiad Rygbi yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn effeithiol ac yn gwella'n barhaus. Maen nhw wedi ennill dwy gynghrair a dau gwpan mewn dau dymor.
“Ac ystyried y lefel y mae'r timau hyn yn chwarae arni mae'n hawdd anghofio weithiau bod y dynion ifanc yma i gyd o dan 18 oed.
"Roedd neithiwr yn fwy arbennig ac ystyried lefel y cymeriad a'r gwytnwch a ddangoswyd. Er bod y sgorfwrdd yn dangos nad oeddem erioed ar y blaen, dangosodd y grŵp eu bod yn credu, yn ymddiried yn ei gilydd a bod ganddynt sgiliau arbennig i sicrhau Cynghrair a Chwpan i’r Coleg yr ail flwyddyn yn olynol, a hynny am y tro cyntaf erioed.”
Dywedodd Capten Academi Rygbi CAVC, Saul Hurley: “Mae'r awydd i ennill a sgorio ym munudau olaf y gêm wir yn crynhoi cymeriad CAVC, yn enwedig ar ôl bod 10 pwynt ar ei hôl hi yn agos at ddiwedd y gêm.”
Dywedodd Pennaeth Grŵp CAVC, Kay Martin: "Mae ennill Cynghrair a Chwpan Ysgolion a Cholegau Cymru ddwy flynedd yn olynol wedi gêm mor gyffrous yn gamp wych i'n Hacademi Rygbi. Mae'r holl hyfforddiant maen nhw wedi'i wneud ar y cae ac yn y gampfa, y brecwastau pŵer cyn gwersi ac addysg faethol wedi gwneud byd o wahaniaeth i'n chwaraewyr Academi Rygbi.
“Hoffwn longyfarch y chwaraewyr am fuddugoliaeth sy'n adlewyrchu eu hymrwymiad a'u hymroddiad mewn blwyddyn a fu'n flwyddyn anodd, a'r holl staff a'u cefnogodd am ganlyniad mor wych - mae pawb yn y Coleg yn falch iawn ohonoch chi.”
Mae Academi Rygbi CAVC yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae'r Academi'n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy'n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o'r radd flaenaf â phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall chwaraewyr symud ymlaen yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.