Cyn-fyfyrwyr Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro Evan a Mackenzie wedi’u dewis i Garfan Chwe Gwlad Cymru

26 Ion 2024

Credyd llun: WRU

Mae cyn-chwaraewyr Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro Evan Lloyd a Mackenzie Martin wedi cael eu dewis fel rhan o garfan Cymru Warren Gatland ar gyfer y Chwe Gwlad.

Fe wnaeth y ddau chwaraewr ifanc dawnus, y ddau yn chwarae i Rygbi Caerdydd ar hyn o bryd, symud ymlaen o Academi Rygbi CAVC lle roedden nhw hefyd yn chwarae rygbi rhanbarthol a rhyngwladol ar lefel oedran.

Bu Evan Lloyd, 23 oed, yn gapten ar Academi Rygbi CAVC yn 2019 ochr yn ochr â’i astudiaethau yn CAVC. Mae Evan yn chwaraewr rheng ôl pwerus ar lefel ranbarthol a Chymru dan 20, gan drosglwyddo i fod yn fachwr dawnus, lle mae'n chwarae i Rygbi Caerdydd. Mae newydd arwyddo cytundeb hir-dymor newydd gyda Rygbi Caerdydd.

Mae Mackenzie Martin, 20 oed, wedi dechrau 2024 yn arwyddo cytundeb tymor hir newydd gyda Rygbi Caerdydd a chael ei ddewis i garfan y chwe gwlad ar ôl creu argraff fawr yn y crys rhif 8. Roedd Mackenzie yn chwaraewr wnaeth greu effaith fawr yn Academi Rygbi CAVC yn ystod ei gyfnod yn y Coleg.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau enfawr i Evan a Mackenzie – fe fydd pawb yn CAVC yn eich cefnogi chi!

“Yn ystod ei chyfnod byr, mae Academi Rygbi CAVC wedi cyflawni canlyniadau gwirioneddol anhygoel, gan ddod yn Bencampwyr Ysgolion a Cholegau Cymru URC dros y blynyddoedd diwethaf a datblygu llu o chwaraewyr dawnus, sy’n chwarae’n rhanbarthol ac ar lefel ryngwladol.

“Yn CAVC rydyn ni’n angerddol am chwaraeon a galluogi pobl ifanc ddawnus i lwyddo yn eu hastudiaethau, boed yn gwrs Safon Uwch neu’n gwrs galwedigaethol sydd â’i ffocws ar yrfa, ac yn eu dewis chwaraeon hefyd.

“Mae cael dau o’n cyn-chwaraewyr ni’n cynrychioli Cymru yn y Chwe Gwlad a hwythau o oedran mor ifanc yn wych ac yn ysbrydoliaeth wirioneddol i’n myfyrwyr presennol ni a’n darpar fyfyrwyr. Rydyn ni mor falch ohonyn nhw.”

Mae Academi Rygbi CAVC yn un o academïau chwaraeon enwog y Coleg. Yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg, mae’r academïau hyn yn darparu amgylchedd cefnogol a phroffesiynol sy’n cyfuno hyfforddiant a chyfleusterau o’r safon uchaf gydag astudiaethau galwedigaethol neu academaidd, gan roi cyfle i bobl ifanc symud ymlaen yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn CAVC.