Cyrsiau i Oedolion

Datblygwch eich sgiliau. Datblygwch eich gyrfa, neu newidiwch yrfa.

Mae miloedd o oedolion yn dysgu gyda CAVC bob blwyddyn

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau i ddatblygu eich sgiliau, datblygu eich gyrfa neu newid eich gyrfa.

Mae cyrsiau yn cael eu cynnal ar safle ledled Caerdydd a’r Fro ac mae mwy o gyrsiau ar-lein ar gael nag erioed – felly gallwch ddysgu o adref, ar amser sy’n addas i chi.

Gallwch ddysgu AM DDIM – gyda chyllid newydd sbon ar gael!
Mae gennym hefyd ystod newydd sbon o gyllid fel y gall mwy o oedolion nag erioed ddysgu, ennill cymwysterau proffesiynol a datblygu neu newid eu gyrfa am ddim. Rydym wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, er enghraifft, os ydych yn ennill llai na £29,534 (newid ar ol 1af o Awst),  yn ddi-waith neu M=mewn perygl o golli’ch swydd.

Dewch o hyd i gwrs. Gwnewch gais nawr.
Porwch y cyrsiau isod. Pan fyddwch yn dod o hyd i gwrs sydd o ddiddordeb i chi, cliciwch ar y botwm Gwneud Cais Nawr pinc. Bydd un o’n cynghorwyr yn cysylltu â chi i weld a oes modd ichi  gael mynediad at gyllid fel bod eich cwrs a buddion eraill am ddim.

Cyfrifon Dysgu Personol (PLA)

Eich llwybr i gyrsiau am ddim i ddatblygu neu newid gyrfa