Cyfrifon Dysgu Personol (PLA)

Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau am ddim ar gyfer oedolion cyflogedig. Cewch greu Cyfrif Dysgu Personol a chyrchu cymwysterau proffesiynol am ddim!

Mae Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn caniatáu'r rheiny sy'n bodloni'r meini prawf isod i fanteisio ar gyrsiau a chymwysterau proffesiynol AM DDIM sy'n gwella eich sgiliau a'ch helpu chi i ddatblygu neu newid eich gyrfa. 

Os ydych yn 19 neu’n hŷn (ar ddechrau’r cwrs hyfforddi), yn byw yng Nghymru a bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, gallech fod yn gymwys: 

  • Yn ennill llai na'r incwm canolrifol o: £34,303 
  • Yn gweithio ar gontract dim oriau 
  • Staff asiantaeth 
  • Gofalwyr llawn amser (cyflogedig neu ddi-dâl)  
  • Troseddwyr wedi'u rhyddhau am y dydd 

Os ydych yn enill dros £34,303, mae genym gyrsiau Digidol a Technoleg Gwyrdd sy wedi'i ariannu heb cap tal.


Gwelwch ein cyrsiau Digidol sy wedi'i ariannu heb cap tal yma

Gwelwch ein cyrsiau Tech Gwynedd sy wedi'i ariannu heb cap tal yma 


Ni chewch Gyfrif Dysgu Personol (PLA) os ydych dan 19 oed (ar ddechrau’r cwrs hyfforddiant), yn byw y tu allan i Gymru, neu mewn addysg llawn amser, neu ar brentisiaeth neu’n ddi-waith neu’n derbyn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg, neu’n wladolyn tramor anghymwys.  
Dim ond un cymhwyster y gallwch ei wneud ar y tro a rhaid cwblhau’r arholiad/asesiad cyn gwneud cais am gymwysterau pellach.

Yn credu eich bod yn gymwys am Gyfrif Dysgu Personol? Gwnewch gais am gwrs heddiw!