Pêl-fasged

Mae Academi Pêl-fasged CAVC yn cynnig rhaglen datblygu chwaraewyr gynhwysfawr i chwaraewyr pêl-fasged talentog rhwng 16 a 19 oed, sy'n datblygu sgiliau ar y cwrt ac oddi arno. 
Mae'r academi'n cynnig amgylchedd pêl-fasged sy'n canolbwyntio ar berfformiad ar gyfer chwaraewyr yng Nghymru, lle ceir cyfleusterau hyfforddi o'r safon orau, hyfforddiant proffesiynol a chymorth gyda'r maes gwyddor chwaraeon sy'n eich galluogi chi i lwyddo i'r eithaf.
Mae Academi Pêl-fasged CAVC wedi ennill sawl pencampwriaeth cenedlaethol ac wedi helpu chwaraewyr i fynychu eu prifysgol ddewisol, cynrychioli'r wlad, a sicrhau contractau proffesiynol.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

Y cydbwysedd iawn

  • Mae eich athrawon a’ch hyfforddwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau nad yw eich astudiaethau a’ch ymrwymiadau o ran chwaraeon yn gwrthdaro. Rydym yn creu’r cydbwysedd iawn i’ch galluogi i gyflawni eich potensial yn y naill agwedd a’r llall.
  • Cam ffantastig ymlaen rhwng yr ysgol a’r brifysgol, yn ogystal â chael chwarae pêl-fasged ar lefel led-broffesiynol.

Hanes o lwyddiant

  • Nid yw bod yn bencampwyr Cymru’n beth dieithr i Academi Pêl-fasged CAVC, ar ôl iddynt ennill pencampwriaeth colegau 2021-22, ynghyd â chynghrair Cymdeithas Golegau Cymru, sef eu trydedd bencampwriaeth mewn blynyddoedd diweddar.
  • Mae gan Academi Pêl-fasged CAVC hanes ardderchog o ddysgwyr yn mynd ymlaen i’r brifysgol i barhau â’u hastudiaethau ynghyd â chwarae pêl-fasged.
  • Mae chwaraewyr cyfredol a blaenorol wedi cynrychioli timau cenedlaethol yng Nghymru o fewn grwpiau oedran, ochr yn ochr â chael eu hymrwymo i gytundebau proffesiynol.

Cyfleusterau rhagorol

  • Campws Chwaraeon Cenedlaethol Caerdydd (CISC) mewn partneriaeth a’r House of Sport: gyda chyrsiau o dan do o’r safon orau, ynghyd â champfa fawr, sy’n sicrhau y gellir cynnal hyfforddiant a gemau trwy gydol y flwyddyn. Gall chwaraewyr elwa ar gyfleusterau pêl-fasged a chryfder a chyflyru yn CISC ac ar Gampws Canol y Ddinas.
  • Mae llety ar gael i fyfyrwyr o bell sy’n dymuno ymuno â CAVC ac un o’n hacademïau.

Hyfforddiant Arbenigol Proffesiynol

  • Pennaeth Pêl-fasged sydd â phrofiad helaeth ar lefel ryngwladol, fel chwaraewr a hyfforddwr, sydd wedi ennill 65 o gapiau rhyngwladol, ac wedi cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr mewn 5 Pencampwriaeth Ewropeaidd FIBA.
  • Gwybodaeth helaeth am agweddau technegol a thactegol y gêm sy’n llywio datblygiad chwaraewyr.
  • Dadansoddiadau manwl o berfformiad i ddatblygu dealltwriaeth, defnyddio hynny mewn gemau, ynghyd â chanfod cryfderau a meysydd i’w gwella.

Partneriaethau Proffesiynol

  • Llwybrau cynnydd sefydledig, gan gynnwys Vale Vipers a Chlwb Pêl-fasged Dinas Caerdydd i alluogi chwaraewyr i ddatblygu i mewn i lefelau uwch ym myd pêl-fasged.
  • Gweithio mewn partneriaeth â Cardiff City House of Sport, rhannu cyfleusterau yng Nghampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.
  • Amgylchedd cefnogol sy’n caniatáu i chi barhau i chwarae pêl-fasged ddomestig gyda’ch clwb dewisedig.

Gornestau ffantastig

  • Gornestau cystadleuol o safon uchel, sy’n chwarae yng nghynghrair colegau cenedlaethol y Gymdeithas Golegau, ynghyd â chynghrair ysgolion Caerdydd a’r Fro.
  • Cysylltiadau cryf â chlybiau sy’n cystadlu yng nghynghreiriau iau ac uwch NBL Basketball England, ac yn uwch gynghrair dynion SWBA.
  • Cymryd rhan mewn twrnameintiau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae Academi Pêl-fasged CAVC yn cynrychioli Cymru yn y pencampwriaethau Prydeinig sydd i ddod.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

  • Hyfforddiant pêl-fasged proffesiynol bob wythnos.
  • Pennaeth Pêl-fasged gyda phrofiad rhyngwladol helaeth fel chwaraewr a hyfforddwr, gan ennill 65 cap rhyngwladol, cynrychioli Cymru a Phrydain mewn 5 Pencampwriaeth FIBA Ewropeaidd.
  • Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, sy'n sicrhau rhaglen ddatblygu unigol ar gyfer pob chwaraewr.
  • Mynediad at ystod o gymorth gwyddor chwaraeon fel maeth, seicoleg a dadansoddi perfformiad.
Am ragor o wybodaeth am ein Hacademi Pêl-fasged llenwch y ffurflen isod: