Ieuan Alex Jones

Pennaeth Pêl-fasged

Caiff yr Academi ei hyfforddi gan ein Pennaeth Pêl-fasged, Ieuan Alex Jones, sydd â phrofiad rhyngwladol helaeth fel chwaraewr a hyfforddwr, wedi ennill 65 cap rhyngwladol, a chynrychioli Cymru a Phrydain mewn 5 Pencampwriaeth FIBA Ewropeaidd. 
Mae Ieuan wedi datblygu chwaraewyr i gystadlu dros eu timau cenedlaethol ac ennill ysgoloriaethau i brifysgolion yn yr UDA a'r DU, wrth weithio gyda rhai o'r chwaraewyr ifanc gorau o bob cwr o'r wlad, wedi hyfforddi gyda Phrydain a thîm Hoopsfix All-Star Classic 2019. 
Mae Ieuan wedi gweithio fel dadansoddwr perfformiad gyda thimau Merched a Dynion Prydain, ac mae ganddo brofiad helaeth o adolygu fideos i ddatblygu chwaraewyr ac arddangos eu galluoedd drwy glipiau uchafbwyntiau.