Academi Pêl Fasged Coleg Caerdydd a’r Fro yn ennill Pencampwriaeth Ysgolion a Cholegau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol

25 Tach 2022

Mae Academi Pêl Fasged Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill Pencampwriaeth Ysgolion a Cholegau Cymru unwaith eto, am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gêm gartref yn y Tŷ Chwaraeon oedd y gêm derfynol, a chyn ei chynnal roedd y tîm wedi ennill pum gêm a cholli dim. Enillodd y tîm gyda sgôr enfawr o 31-0 yn erbyn Coleg Cambria, ac yn awr bydd yn mynd yn ei flaen i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Prydain Cymdeithas y Colegau.

Medd Alex Jones, Pennaeth Pêl Fasged yn CAVC: “Rydw i’n falch iawn o’r chwaraewyr am ennill Pencampwriaeth Genedlaethol Colegau Cymru, ein hail fuddugoliaeth mewn dwy flynedd. Dyw ennill ddwywaith yn olynol byth bythoedd yn dasg hawdd ac mae ein chwaraewyr wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i’w gilydd er mwyn creu tîm clòs.

“Milo Dinic oedd seren y diwrnod, a llwyddodd i reoli’r gêm gynderfynol a’r gêm derfynol. Rydyn ni’n llawn cyffro o gael mynd i Bencampwriaethau Cenedlaethol Prydain Cymdeithas y Colegau ym mis Ebrill.”

Yn ôl Steve Keuni, Capten Academi Pêl Fasged CAVC: “Teimlad gwych yw gwybod ein bod wedi ennill Pencampwriaethau Cenedlaethol Colegau Cymru ddwy flynedd yn olynol – a minnau wedi bod yn rhan o’r ddau dîm a enillodd y bencampwriaeth, rydw i’n teimlo’n falch iawn o’r hyn rydw i a’r tîm wedi’i gyflawni! Ac rydw i’n gyffro i gyd o gael mynd i Bencampwriaethau Cenedlaethol Prydain Cymdeithas y Colegau gyda gweddill y tîm a gweld sut byddwn yn perfformio ar y lefel honno.”

Mae Academi Pêl Fasged CAVC yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg, sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academi yn cynnig amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau chwaraeon a hyfforddi o’r radd flaenaf gyda phortffolio cyrsiau eang y Coleg. Gall y chwaraewyr gamu yn eu blaen gyda’u gyrfa chwaraeon gan fynd ati ar yr un pryd i astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i’r byd chwaraeon hefyd