Academi Pêl Fasged CAVC yn ennill y tro cyntaf!

19 Tach 2021

Ymunodd Academi Pêl Fasged Coleg Caerdydd a’r Fro â Phencampwriaeth Pêl Fasged Chwaraeon Colegau Cymru am y tro cyntaf fel Academi - a'i hennill - yr wythnos hon.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu y bydd Academi Pêl Fasged CAVC, un o Academïau Chwaraeon mwyaf newydd y Coleg, yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Colegau Prydain y flwyddyn nesaf.

Gosodwyd yr academi yng Ngrŵp 1 yn erbyn Coleg Merthyr, Coleg Cambria, NPTC a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant. Ar ôl ychydig o fuddugoliaethau roedd y gêm derfynol yn erbyn Dewi Sant yn llawn tensiwn, gyda CAVC yn ennill o bwynt ar y diwedd.

Wedyn roedd yr Academi yn erbyn yr ail dîm gorau yng Ngrŵp 2 - Coleg Gwent, a oedd â phresenoldeb cryf i ddelio ag ef. Gyda phob tîm yn ffeirio basgedi yn y rownd gyn-derfynol, daeth Academi Pêl Fasged CAVC i'r brig.

Wedyn roedd yr Academi yn erbyn Dewi Sant ar gyfer y gêm derfynol. Gwnaeth CAVC yn well yn y gêm yma, gan chwarae gyda thwyll a hyder, gyda’r Capten Josh Brown yn selio buddugoliaeth gyda chwarae gwych yn hwyr yn y gêm a roddodd y sgôr allan o gyrraedd Dewi Sant.

Gorffennodd Academi Pêl Fasged CAVC Bencampwriaeth Pêl Fasged Chwaraeon Colegau Cymru gyda record o 6-0 yn y gystadleuaeth.

Dywedodd Josh Brown, Capten Academi Pêl Fasged CAVC a chwaraewr rhyngwladol dros Gymru: "Roedd yn wych mynd allan yna a chystadlu ym Mhencampwriaeth Pêl Fasged Chwaraeon Colegau Cymru. Rydw i'n credu ein bod ni i gyd wedi gwneud ein gwaith yn y grŵp a’r gemau dilynol yn y twrnamaint a dod o hyd i'n rôl yn y tîm wrth i ni symud ymlaen.

“Mae ennill pencampwriaeth Cymru wedi helpu gyda chydlyniant y tîm, ond nid yw’n stopio yma - rydyn ni i gyd nawr yn edrych ymlaen at gystadlu ym mhencampwriaethau Prydain ym mis Mai!"

Dywedodd Ieuan Alex Jones, Pennaeth Pêl Fasged CAVC: "Rydw i'n falch iawn o'r bechgyn am eu perfformiad drwy gydol y twrnamaint. Fe wnaethon nhw oresgyn yr heriau fel grŵp a pherfformio pan oedd pwysau mawr ar ôl gadael y grŵp i fod yn bencampwyr colegau Cymru!

“Dim ond ers ychydig wythnosau ydyn ni wedi bod yn hyfforddi fel grŵp ac mae’r canlyniad yma’n dangos y cynnydd mae’r bechgyn yn ei wneud, ond hefyd y potensial mawr sydd ganddyn nhw i barhau i wella’n unigol ac ar y cyd. Rydyn ni'n gyffrous iawn am fod yn cystadlu ym mhencampwriaethau Prydain ym mis Mai!"