Creu hanes – Academi Bêl Fasged CCAF yn Bencampwyr Cenedlaethol cyntaf Cymdeithas Colegau Cymru

30 Ebr 2024

Academi Bêl Fasged Coleg Caerdydd a’r Fro yw’r tîm coleg cyntaf yng Nghymru i ennill teitl Pencampwyr Chwaraeon Cymdeithas y Colegau (AoC) y DU gyfan yn eu disgyblaeth.
Yn fuan wedi i’r tîm Categori 1 ennill eu trydedd pencampwriaeth yn olynol yng nghynghrair Cymru AoC a’r 3ydd tîm yn ennill Pencampwriaeth Haen III, teithiodd yr Academi i Nottingham i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol yr AoC, gan herio’r timau gorau o bob rhanbarth yn y DU.

Colli i Goleg Technoleg Dudley a buddugoliaeth o drwch y blewyn yn erbyn Coleg Dinas Leeds oedd y canlyniadau yn ystod y diwrnod cyntaf. Wedyn fe wnaeth yr Academi Bêl Fasged ddod o hyd i’w thraed yn y rownd gynderfynol gyda buddugoliaethau llawn argyhoeddiad yn erbyn Coleg Richard Huish, Coleg Gateshead a Choleg Chweched Dosbarth Long Road.

Roedd CCAF yn wynebu Coleg Haringey, Enfield, Gogledd Ddwyrain Llundain yn y rownd derfynol a chafwyd dosbarth meistr mewn amddiffyn i ennill y twrnamaint gyda sgôr o 9-13.
Mae arolygon diweddar wedi dangos mai pêl fasged yw'r gamp sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru a'r ail gamp sy'n cael ei chwarae fwyaf y tu ôl i bêl droed.

Dywedodd Pennaeth Pêl Fasged CCAF, Ieuan Jones: “Rydw i wrth fy modd bod ein tîm ni wedi gallu ennill Pencampwriaeth Genedlaethol AoC. Dyma’r tro cyntaf i dîm o Gymru ennill Pencampwriaeth Genedlaethol yr AOC ers ei sefydlu 44 mlynedd yn ôl.

“Mae hwn yn grŵp arbennig o chwaraewyr sydd wedi cyfrannu at ddiwylliant ein Hacademi ni. Rydw i'n falch ohonyn nhw gan eu bod nhw wedi ymrwymo i'w gilydd gydag ethig gwaith cadarn ar y cwrt ac yn yr ystafell ddosbarth. Rydw i’n ddiolchgar i’n chwaraewyr ni sy’n graddio, Lance Macaraig, Trystan Maciver, Enock Ntumba a Hamid Ibrahim.

“Mae gwybod bod y bechgyn yma’n gadael y rhaglen fel Pencampwyr Cenedlaethol yn dod â llawenydd aruthrol i mi. Fe hoffwn i ddiolch i’r Coleg, y tîm Gweithredol, yr Adran Chwaraeon gyfan, ein noddwyr a’n partneriaid ni sydd wedi chwarae eu rhan i gyd yn ein llwyddiant ni. Dim ond yn ei thrydedd blwyddyn mae’r academi ac rydw i’n hynod gyffrous am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol i’n rhaglen ni fel yr academi bêl fasged elitaidd yng Nghymru!”

Ychwanegodd James Young, Pennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus CCAF: “Mae Ieuan a’i dîm hyfforddi wedi gwneud gwaith anhygoel gyda’n Hacademi Bêl Fasged ni dros y tair blynedd diwethaf. Mae egni ac angerdd Ieuan yn unigryw, ac mae’r athletwyr dan hyfforddiant yn amlwg yn ymateb yn arbennig o dda iddo.

“Mae ein holl chwaraewyr academi ni’n amlwg yn dalentog iawn ond mae eu dyhead a’u hymrwymiad i foeseg a diwylliant y tîm yn ysbrydoledig ac yn sail i’w llwyddiannau nhw. Maen nhw’n dîm mor gydlynol ac yn haeddu’r holl lwyddiannau maen nhw wedi’u cael. Mae bod yn enillwyr cyntaf o Gymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol AoC yn erbyn academïau pêl fasged mor uchel eu proffil yn gyflawniad mor anhygoel. Da iawn i bawb a gymerodd ran!

Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Pêl Fasged Cymru, Phil Gordos: “Mae cyflawniad CCAF yn ennill Pencampwriaeth Genedlaethol AoC yn hynod bwysig i bêl fasged yng Nghymru. Mae wedi sicrhau cyhoeddusrwydd gwych ac wedi dangos y gall timau Cymru fod yn gystadleuol ar lefel uchel.

“Pob clod i Ieuan a’r Coleg am yr hyn maen nhw’n ei wneud ar gyfer y gêm. Rydw i’n siŵr y byddan nhw’n mynd o nerth i nerth ac rydw i’n edrych ymlaen at wylio eu cynnydd nhw. Llongyfarchiadau ar dymor gwych."

Mae Academi Bêl Fasged CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academi yn darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r radd flaenaf gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall y chwaraewyr wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.

I gael gwybod mwy am yr Academi Bêl Fasged ewch i: https://cavc.ac.uk/en/basketballacademy