Mynediad Galwedigaethol

L1 Lefel 1
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Dwyrain Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cyrsiau “Sylfeini…” poblogaidd yn eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwysterau fel eich bod yn gallu gwneud cynnydd i gwrs lefel uwch yn y coleg.

Beth bynnag yw eich diddordeb chi, rydyn ni’n eich helpu i feithrin y sgiliau sydd arnoch eu hangen i wneud cynnydd.

Rhestr cyrsiau:

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar bob un o’r cyrsiau yma sy’n canolbwyntio ar gynnydd, bydd gennych fynediad i sesiynau sy’n meithrin sgiliau penodol i bwnc sy’n cael eu cyflwyno gan arbenigwyr pwnc.

Tra byddwch chi ar y cwrs, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau grŵp ac yn cwblhau aseiniadau sy’n meithrin eich sgiliau astudio.

Byddwch hefyd yn parhau i ddatblygu eich sgiliau mewn Saesneg a Mathemateg, gyda rhai myfyrwyr yn dewis ailsefyll eu TGAU yn y pynciau yma ar yr un pryd.

Ymuno â’r cwrs

Sut mae dechrau ar y cwrs?

  1. Edrychwch drwy'r cyrsiau i ddod o hyd i'r un iawn i chi.  
  2. Mae gan bob un o'r tudalennau hyn fotwm 'ymgeisiwch yn awr'. Pan fod cyrsiau yn rhedeg ar fyw nag un safle, dewiswch un yr hoffech fynychu.
  3. Unwaith I chi ymgeisio, cewch wahoddiad I fynychu Diwrnod Profiad,  ble y gallwch gwrdd â thiwtoriaid a dysgwyr newydd eraill. 
  4. Ar ôl y diwrnod profiad, bydd y tîm yn cysylltu â chi am y camau nesaf. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Dwyrain Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

FLVAEHHO
L1

Cymhwyster

Vocational Access Parent Code (Eastern Community Campus)

Eich CCAF

Rydym yn cynnig cymorth lles cynhwysol trwy gydol eich amser yn y coleg er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn cymorth ac yn gallu ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. Pan fod angen cyngor, rhywun i wrando, neu adnoddau i reoli straen, mae’n tîm penodedig yma gyda chefnogaeth a chymorth i’ch helpu i aros yn gytbwys ac â ffocws yn ystod eich astudiaethau.

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL