Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi ei lunio ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol ac sy’n dymuno symud ymlaen i astudio cyrsiau pellach sy’n ymwneud â'r Diwydiant Creadigol. Mae'r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth dysgwyr yn ogystal â hyder, gwydnwch a dealltwriaeth o hunan-fyfyrdod, sy'n hanfodol i weithrediad y Diwydiant Creadigol.
Bydd dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs hwn gyda theilyngdod yn cael symud ymlaen i gyrsiau Creadigol pellach yn CCAF.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol fydd yn rhoi cipolwg ar sut brofiad yw astudio a gweithio yn y diwydiant creadigol.
Byddwch yn gweithio â nifer o diwtoriaid pwnc arbenigol i ddatblygu sgiliau mewn darlunio a phaentio, clai, tecstilau a modelu 3D a ffotograffiaeth ddigidol.
Yn ogystal â datblygu dull amlddisgyblaethol, bydd myfyrwyr yn ehangu eu sgiliau hunan-fyfyrdod gan greu portffolio o'u hymarfer proffesiynol.
Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.
Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU ar radd D - F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.