Sylfeini Busnes a Chyflogadwyedd

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol sydd wedi’i fwriadu ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol ac sy’n dymuno symud ymlaen i astudio ymhellach ar gyrsiau sy’n gysylltiedig gyda Busnes neu sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau sy’n gysylltiedig gyda hunangyflogaeth. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant. Bydd y cwrs hwn hefyd yn helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau trefnu a hunanreolaeth sy’n hanfodol i weithio ym maes Busnes, Cyllid, Gweinyddu a Chyfrifo.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o fodiwlau theori ac ymarferol fydd yn cynnig golwg graff ar sut brofiad yw astudio a gweithio yn y diwydiant busnes drwy aseiniadau a gweithgareddau menter.

Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid pwnc arbenigol ac yn datblygu gwybodaeth ynghylch trefniadaeth busnesau, cyfathrebu gyda chwsmeriaid, a hanfodion sylfaenol cyllid busnes.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn ymwneud â datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig gyda Sgiliau Gweinyddu swyddfa, cynnal digwyddiadau a’r sgiliau TG sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y sector hwn. 

Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.

Gofynion mynediad

Rydych chi'n gweithio tuag at o leiaf E2. Gellid darparu'r dystiolaeth hon gan: 1 TGAU Graddau D–F Tystiolaeth o weithio ar Lefel Mynediad 2 trwy asesiad sgrinio

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Bydd dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs hwn gyda theilyngdod yn cael symud ymlaen i gyrsiau pellach o fewn y maes cwricwlwm hwn.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE