Elfennau Sylfaenol Crefft

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi ei baratoi ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol ac sy'n dymuno dechrau eu gyrfa mewn Gwasanaethau Adeiladu. Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu hyder, cadernid, a dealltwriaeth o hunanreolaeth wrth iddynt feithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i weithio yn y diwydiannau crefft.  

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn cael symud ymlaen i gyrsiau mewn Gwasanaethau Adeiladu.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol fydd yn rhoi cipolwg ar sut brofiad yw gweithio yn y diwydiannau crefft. Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei gynllunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau D-F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a chipolwg ar eu sgiliau perthnasol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ