Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol sydd wedi’i fwriadu ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol ac sy’n dymuno symud ymlaen i astudio ymhellach ar gyrsiau sy’n gysylltiedig gyda’r diwydiant Cerbydau a Pheirianneg. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant. Bydd y cwrs hwn hefyd yn helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau trefnu a hunanreolaeth sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant Ceir a Pheirianneg.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o fodiwlau theori ac ymarferol fydd yn cynnig golwg graff ar sut brofiad yw astudio a gweithio o fewn y diwydiant Ceir a Pheirianneg.
Byddwch yn gweithio gyda nifer o diwtoriaid pwnc arbenigol er mwyn datblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys Atgyweirio Corff Cerbyd, Atgyweirio a Chynnal a Chadw Cerbyd, gan ddefnyddio’r offer a’r technegau paent sylfaenol priodol.
Yn ogystal â datblygu agwedd amlddisgyblaethol, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth am yrfaoedd o fewn y sector a’r arferion iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i astudio pellach yn y maes hwn.
Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.
Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau D-F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a chipolwg ar eu sgiliau perthnasol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gyda graddau teilyngdod yn gallu symud ymlaen i gyrsiau pellach o fewn y diwydiant Ceir a Pheirianneg.