Mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio i ddisgyblion sy’n gadael ysgol ac sydd awydd mynd ymlaen i’r byd gwaith.
Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol a fydd yn eich galluogi chi i wneud dewisiadau ynghylch swyddi y gallech lwyddo ynddynt.
Mae pentwr o gyrsiau ar gael sy’n eich addysgu chi i ysgrifennu CV, ond drwy’r cwrs hwn fe gewch brofiadau a sgiliau y gallwch eu nodi ar eich CV.
Bydd dysgwyr yn cynnal digwyddiadau ac yn datblygu syniadau busnes bach gyda chefnogaeth gan eu hathrawon. Bydd y cwrs hwn hefyd yn helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau trefnu a’r sgiliau hunan-reoli sydd rhaid eu cael yn y byd gwaith.
Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.
Bydd angen ichi fod â’r awydd i symud ymlaen at waith annibynnol. Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau E-G. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyflogaeth neu astudiaeth bellach.