Prentisiaethau

Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am weithio mewn gyrfa benodol neu wedi meddwl am swydd ddelfrydol, mae prentisiaeth yn lle da i ddechrau.

Beth yw manteision Prentisiaeth?

  • Ennill cyflog wrth hyfforddi
  • Cael gwyliau gyda thâl
  • Derbyn hyfforddiant arbenigol
  • Ennill cymwysterau cydnabyddedig cenedlaethol
  • Datblygu sgiliau penodol i swydd ar gyfer eich gyrfa
  • Cychwyn eich gyrfa o'r dechrau un
  • Cael llawer o gefnogaeth gan eich cyflogwr, tiwtoriaid y coleg a'ch cydlynydd hyfforddi a'ch aseswyr

Prentisiaethau

Sut i sicrhau prentisiaeth

Os ydych chi dros 16 oed, yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg llawn amser gallwch wneud cais am Brentisiaeth. Yn gyntaf, byddwch angen cyflogwr. Cewch ychydig o awgrymiadau da gyda’n canllaw cam wrth gam isod.

Prentisiaethau

Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am weithio mewn gyrfa benodol neu wedi meddwl am swydd ddelfrydol, mae prentisiaeth yn lle da i ddechrau.

Beth yw Prentisiaeth

Yn syml iawn, mae prentisiaethau'n ffordd o ennill cyflog tra rydych yn dysgu.