Sylfeini Crefftau a Cheir

EL3 Lefel Mynediad 3
Llawn Amser
1 Medi 2026 — 18 Mehefin 2027
Campws Dwyrain Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol wedi’i fwriadu ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol ac sy’n dymuno symud ymlaen i astudio ymhellach neu gyflogaeth naill ai yn y Gwasanaethau Ceir, Adeiladu, neu Waith Adeiladu. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant. Bydd y cwrs hwn hefyd yn helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau trefnu a hunanreolaeth sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant Ceir a Pheirianneg.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o fodiwlau theori ac ymarferol fydd yn cynnig golwg graff ar sut brofiad yw astudio a gweithio o fewn y diwydiant Ceir a Pheirianneg.

Byddwch yn gweithio gyda nifer o diwtoriaid pwnc arbenigol er mwyn datblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys Atgyweirio Corff Cerbyd, Atgyweirio a Chynnal a Chadw Cerbyd, gan ddefnyddio’r offer a’r technegau paent sylfaenol priodol. Yn ogystal â datblygu agwedd amlddisgyblaethol, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth am yrfaoedd o fewn y sector a’r arferion iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i astudio pellach yn y maes hwn.

Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol. 

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau D-F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a chipolwg ar eu sgiliau perthnasol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2026

Dyddiad gorffen

18 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Dwyrain Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

FLEHFTA01
EL3

Cymhwyster

Foundations of Trade and Auto

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Bydd dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gyda graddau teilyngdod yn gallu symud ymlaen i gyrsiau pellach o fewn y diwydiant Ceir a Pheirianneg.

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL