Almaeneg -TGAU

L2 Lefel 2
Rhan Amser
4 Medi 2024 — 28 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs TGAU Almaeneg hwn yn gwrs dwys, blwyddyn o hyd.Bydd myfyrwyr yn ymarfer y pedwar sgil iaith sef darllen, siarad, gwrando ac ysgrifennu ac fe’u hanogir i ddefnyddio’r iaith darged pryd bynnag y mae hynny’n bosibl.

Er bod y cwrs yn addas i ddechreuwyr, argymhellir bod wedi astudio Almaeneg neu iaith dramor arall yn flaenorol. Byddai profiad blaenorol o astudio iaith dramor fodern arall yn fantais.

Nod y cwrs yw paratoi myfyrwyr i sefyll arholiad TGAU Almaeneg CBAC; i ddatblygu sgiliau iaith y dysgwr, meithrin meddwl critigol, cydweithrediad ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol; gan alluogi ymgeiswyr i gyfathrebu a rhyngweithio’n hyderus.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Arweinyddiaeth a diwylliant

Chi eich hun a pherthnasau, Technoleg a'r Cyfryngau Cymdeithasol

Iechyd a Ffitrwydd, Adloniant a Hamdden

Bwyd a Diod, Gwyliau a Dathliadau

Cymru a'r byd

Cartref a bro - meysydd lleol o ddiddordeb, teithio a thrafnidiaeth

Y byd ehangach - gwyliau a thwristiaeth, nodweddion lleol a rhanbarthol yr Almaen a gwledydd sy’n siarad Almaeneg

Cynaliadwyedd byd-eang - yr amgylchedd, materion cymdeithasol

Astudiaethau a Chyflogaeth Gyfredol ac yn y Dyfodol

Astudiaeth gyfredol - bywyd ysgol/coleg, astudiaethau ysgol/coleg

Menter, cyflogadwyedd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol - sgiliau a rhinweddau personol, astudiaeth ôl-16, cynlluniau gyrfa, cyflogaeth

Rhoddir gwerth 25% ar bob un o’r sgiliau.

Asesir y gydran Siarad ym mis Ebrill/Mai.

Mae 3 tasg ar gyfer yr arholiad Llafar - chwarae rôl, trafodaeth am gerdyn llun a sgwrs dwy ran am ddau bwnc ar wahân. Mae’r arholiad hwn yn para 10 munud i ymgeiswyr Haen Sylfaenol a 12 munud i ymgeiswyr Haen Uwch

Darllen ac Ymateb: 1 awr ar gyfer Haen Sylfaenol ac 1 awr 15 munud ar gyfer Haen Uwch

Ysgrifennu: 1 awr ar gyfer Haen Sylfaenol ac 1 awr 15 munud ar gyfer Haen Uwch. Tasgau ysgrifenedig yn cynnwys 1 dasg cyfieithu o Gymraeg/Saesneg i Almaeneg

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £35.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffi Cwrs: £380.00

Gofynion mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol i oedolion sy’n ddysgwyr, ond rhaid iddynt fod wedi astudio Almaeneg neu iaith dramor arall yn y gorffennol. Gall hyn gynnwys astudio iaith dramor ar lefel CA3, astudiaeth breifat gartref neu gyda thiwtor, neu ddefnydd cyson o offeryn ar-lein neu ddigidol, fel ap iaith. Bydd holl gyfathrebu’r dosbarth oddi allan i’r wers yn cael ei wneud trwy gyfrwng Microsoft TEAMS. Hefyd, bydd angen ichi ddefnyddio cyfrifiadur i gwblhau gwaith cwrs. O’r herwydd, byddai peth gwybodaeth a/neu brofiad o Microsoft Office o fantais. Dylai myfyrwyr amser llawn feddu ar 4 cymhwyster TGAU Gradd D, fan leiaf.

Amseroedd cwrs

Dydd Mercher (17:45 - 20:45)

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2024

Dyddiad gorffen

28 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

GCCC2E11
L2

Cymhwyster

CBAC TGAU Lefel 1/Lefel 2 mewn Almaeneg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE