Sbaen - TGAU

L2 Lefel 2
Rhan Amser
1 Medi 2025 — 28 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r cwrs TGAU Sbaeneg yn gwrs dwys blwyddyn o hyd. Anelir y cwrs at sydd eisoes â pheth gwybodaeth am yr iaith. Bydd myfyrwyr yn ymarfer y pedwar sgil iaith sef darllen, siarad, gwrando ac ysgrifennu ac fe’u hanogir i ddefnyddio’r iaith darged pryd bynnag y mae hynny’n bosibl.

Er bod y cwrs yn addas i ddechreuwyr, argymhellir bod wedi astudio Sbaeneg neu iaith dramor arall yn flaenorol.

Nod y cwrs yw paratoi myfyrwyr i sefyll Asesiad TGAU Sbaeneg CBAC, ac i baratoi unrhyw un sy’n dymuno parhau â’i astudiaethau ar lefel Safon Uwch.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd cwrs TGAU Sbaeneg CBAC yn cynnwys amrywiaeth o feysydd pwnc:

· Diwylliant ieuenctid

· Ffordd o Fyw

· Arferion a thraddodiadau

· Cartref a Bro

· Y Byd Ehangach

· Cynaliadwyedd Byd-Eang

· Astudiaeth gyfredol

· Menter, Cyflogadwyedd a Chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Rhennir yr arholiad yn gyfartal ar draws y pedwar maes sgiliau:

Uned 1: Gwrando (25%)

Uned 2: Siarad (25%)

Uned 3: Darllen (25%)

Uned 4: Ysgrifennu (25%)

Asesir pob un o’r pedwar sgil yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y cwrs a thrwy bedwar arholiad yn agos at ddiwedd y cwrs.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £380.00

Ffi Arholiad : £35.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Gofynion mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol i oedolion sy’n ddysgwyr, ond rhaid iddynt fod wedi astudio Sbaeneg neu iaith dramor arall yn y gorffennol. Gall hyn gynnwys astudio iaith dramor ar lefel CA3, astudiaeth breifat gartref neu gyda thiwtor, neu ddefnydd cyson o offeryn ar-lein neu ddigidol, fel ap iaith. Bydd holl gyfathrebu’r dosbarth oddi allan i’r wers yn cael ei wneud trwy gyfrwng Microsoft TEAMS. Hefyd, bydd angen ichi ddefnyddio cyfrifiadur i gwblhau gwaith cwrs. O’r herwydd, byddai peth gwybodaeth a/neu brofiad o Microsoft Office o fantais. Dylai myfyrwyr amser llawn feddu ar 4 cymhwyster TGAU Gradd D, fan leiaf.

Amseroedd cwrs

Dydd Llun (17:45 - 20:45)

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

28 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

GCCC2E06
L2

Cymhwyster

Spanish - GCSE

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE