Bydd TGAU Cymraeg Ail Iaith yn galluogi dysgwyr i ddeall a defnyddio’r iaith at amrywiaeth o ddibenion a chydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Mae'r cwrs yn anelu at ddatblygu sgiliau iaith y dysgwyr ac yn galluogi ymgeiswyr i gyfathrebu a rhyngweithio’n hyderus ac yn ddigymell mewn sefyllfaoedd perthnasol ac mewn cyd-destunau penodol.
Trefnir y cyd-destun ar gyfer dysgu TGAU Cymraeg Ail Iaith dan dair thema eang:
Bydd dysgwyr yn cael cymhwyster ar sail perfformiad mewn Asesiadau Di-Arholiad ac Arholiadau Ysgrifenedig
Asesiadau Di-arholiad:
Tasg i bâr / grŵp o dri ar sail ysgogiad gweledol a ddarperir gan CBAC i danio trafodaeth.
Trafodaeth mewn parau/grwpiau o dri yn seiliedig ar ysgogiadau fel cyfuniad o graffiau, lluniau a thestunau byr a ddarperir gan CBAC.
Arholiad Ysgrifenedig:
Ffi Arholiad : £35.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £380.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith symud ymlaen i astudio Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith a dylent allu trafod pynciau cyffredin yn Gymraeg.