Mae’r rhaglen TGAU Bioleg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio gwyddoniaeth bywyd yn amrywio o organeddau cell unigol i ecosystemau byd-eang. Wedi ei leoli yn ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y cwrs hwn yn archwilio’r amrywiaeth o a chymhlethdod bywyd ar y ddaear, yn ogystal â chynnal trafodaethau ar oblygiadau gweithgaredd dynol.
Mae’r cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:
Uned 1: CELLOEDD, SYSTEMAU ORGANAU ac ECOSYSTEMAU
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud - 45% o’r cymhwyster, 80 marc.
Cyfuniad o gwestiynau ateb byr, cwestiynau strwythuredig, ysgrifennu estynedig a chwestiynau ymateb data gyda rhai wedi eu gosod mewn cyd-destun ymarferol.
Uned 2: AMRYWIAD, HOMEOSTASIS a MICRO-ORGANEDDAU
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud - 45% o’r cymhwyster, 80 marc.
Cyfuniad o gwestiynau ateb byr, cwestiynau strwythuredig, ysgrifennu estynedig a chwestiynau ymateb data gyda rhai wedi eu gosod mewn cyd-destun ymarferol.
Uned 3: ASESIAD YMARFEROL
10% o’r cymhwyster, 30 marc.
Asesiad ymarferol a fydd yn cael ei gyflawni mewn canolfannau, ond a fydd yn cael ei farcio'n allanol gan CBAC. Fe’i cynhelir yn ystod hanner cyntaf Tymor y Gwanwyn (Ionawr – Chwefror).
Ffi Arholiad : £35.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £380.00
TGAU Mathemateg a Saesneg gradd D - argymhellir bod gan ddysgwyr o leiaf DD mewn Gwyddoniaeth Ddwbl, fodd bynnag, ar gyfer dysgwyr lle bu toriad sylweddol ar eu haddysg, bydd dewisiadau eraill yn cael eu hystyried.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.