Mae’r cymhwyster TGAU Ffrangeg yn gwrs dwys, blwyddyn o hyd. Yn ystod y cwrs bywiog hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth fanylach o gymdeithas, diwylliant a'r iaith Ffrangeg, wrth ddatblygu galluoedd cyffredinol o safbwynt cyfathrebu yn Ffrangeg, a gramadeg yr iaith. Bydd myfyrwyr yn ymarfer y pedwar sgil iaith sef darllen, siarad, gwrando ac ysgrifennu ac fe’u hanogir i ddefnyddio’r iaith darged pryd bynnag y mae hynny’n bosibl.
Er bod y cwrs yn addas i ddechreuwyr, argymhellir astudiaeth flaenorol o'r iaith Ffrangeg neu iaith dramor arall.
Nod y cwrs yw paratoi myfyrwyr i sefyll Asesiad TGAU Ffrangeg CBAC.
Bydd y cwrs TGAU Ffrangeg CBAC yn cynnwys amrywiaeth o feysydd pwnc. Maent yn cael eu rhannu i dair brif thema:
1. Hunaniaeth a Diwylliant
2. Cymru a'r Byd - Meysydd o Ddiddordeb a
3. Astudiaethau a Chyflogaeth Gyfredol ac yn y Dyfodol
Rhennir y meysydd hyn ymhellach i is-themâu a’u modiwlau cyfatebol:
Hunaniaeth a Diwylliant
Diwylliant Ieuenctid: Chi eich hun a pherthnasau, Technoleg a'r Cyfryngau Cymdeithasol.
Ffordd o fyw: Iechyd a Ffitrwydd, Adloniant a Hamdden
Arferion a thraddodiadau: Bwyd a Diod, Gwyliau a Dathliadau
Cymru a'r Byd - Meysydd o Ddiddordeb
Cartref a Bro: Meysydd lleol o ddiddordeb, Teithio a Thrafnidiaeth
Y Byd Ehangach: Nodweddion Lleol a Rhanbarthol Ffrainc a Gwledydd sy’n siarad Ffrangeg, Gwyliau a Thwristiaeth
Cynaliadwyedd Byd-eang: Yr Amgylchedd, Materion Cymdeithasol
Astudiaethau Cyfredol ac Astudiaethau a Chyflogaeth yn y dyfodol
Astudiaeth Gyfredol: Bywyd Ysgol/Coleg, Astudiaethau Ysgol/Coleg
Menter, Cyflogadwyedd a Chynlluniau ar gyfer y Dyfodol: Cyflogaeth, Sgiliau a Rhinweddau Personol, Astudio Ôl-16
Rhennir yr arholiad yn gyfartal ar draws y pedwar maes sgiliau: Darllen, Gwrando, Siarad ac Ysgrifennu
Mae bob arholiad werth 25% o’r asesiad cyffredinol
Darllen
Yn yr arholiad darllen bydd angen i chi:
· ateb cwestiynau mewn arddulliau gwahanol
· ateb tri chwestiwn yn Ffrangeg
· ateb dau gwestiwn ar sail testunau llenyddol
· cyfieithu i'r Saesneg
Gwrando
Yn yr arholiad gwrando bydd rhaid i chi:
· ateb cwestiynau mewn arddulliau gwahanol
· ateb dau gwestiwn yn Ffrangeg
Siarad
Yn yr arholiad llafar bydd angen i chi baratoi’r canlynol:
· chwarae rôl
· cerdyn llun
· sgwrs ar sail dwy thema
Ysgrifennu
Yn yr arholiad ysgrifenedig bydd angen i chi:
· ysgrifennu mewn gwahanol arddulliau am bob un o'r tair thema
· cyfieithu i’r Ffrangeg
Llyfrau a argymhellir:
Gwerslyfr TGAU Ffrangeg CBAC gan Louise Pearce, Bethan McHugh a Chris Whittaker
Practice Makes Perfect: Complete French Grammar, gan Annie Heminwa
Ffi Arholiad : £35.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £380.00
Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol i oedolion sy’n ddysgwyr, ond rhaid iddynt fod wedi astudio Ffrangeg neu iaith dramor arall yn y gorffennol. Gall hyn gynnwys astudio iaith dramor ar lefel CA3, astudiaeth breifat gartref neu gyda thiwtor, neu ddefnydd cyson o offeryn ar-lein neu ddigidol, fel ap iaith. Bydd holl gyfathrebu’r dosbarth oddi allan i’r wers yn cael ei wneud trwy gyfrwng Microsoft TEAMS. Hefyd, bydd angen ichi ddefnyddio cyfrifiadur i gwblhau gwaith cwrs. O’r herwydd, byddai peth gwybodaeth a/neu brofiad o Microsoft Office o fantais. Dylai myfyrwyr amser llawn feddu ar 4 cymhwyster TGAU Gradd D, fan leiaf.
Dydd Mercher (17:45 - 20:45)
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.