Pêl-droed
Mae Academi Pêl Droed CAVC yn cynnig rhaglen datblygu chwaraewyr gynhwysfawr i bêl droedwyr talentog 16-19 oed, gan ddatblygu sgiliau'r chwaraewyr ar ac oddi ar y cae, mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r gêm broffesiynol.
Ȃ hwnnw wedi’i ddyfarnu â Statws Coleg Ffocws CBDC, am gynnal y safonau uchaf o ran darpariaeth bêl-droed, mae Academi Pêl-droed CAVC yn elwa o gyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf sydd wedi’u cymeradwyo gan FIFA, ynghyd â hyfforddiant a chefnogaeth gan arbenigwyr.
Mae Academi Pêl-droed CAVC wedi datblygu enw am lwyddiant, gan chwarae yn y gynghrair uchaf bosibl, ac yn erbyn rhai o’r prif golegau yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddi hanes hefyd o ddatblygu talent, gyda chwaraewyr yn mynd ymlaen i’r brifysgol, yn ennill ysgoloriaethau pêl-droed rhyngwladol, yn datblygu gyrfaoedd mewn pêl-droed, ac yn gwneud cysylltiadau â chlybiau ledled y wlad.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Hanes o lwyddiant
- Ȃ’r rheiny wedi cyrraedd y rowndiau terfynol am flynyddoedd yn olynol, o ran Rownd Derfynol Cwpan FA Ysgolion Cymru, a Chwpan Ysgolion Caerdydd a’r Fro. Pencampwyr Cynghrair Cat 2 y Gymdeithas Golegau.
- Mae nifer o chwaraewyr hefyd yn chwarae gydag uwch dimau yn Uwch Gynghrair Cymru, gan gynnwys Tref y Barri, Penybont a Ffynnon Taf.
- Bu chwaraewyr yn cynrychioli eu gwlad, yn chwarae i dimau Dan 18 Ysgolion Cymru ynghyd â Cholegau Cymru.
- Mae llawer o gyn chwaraewyr wedi mynd ymlaen i brifysgolion chwaraeon blaenllaw ac yn datblygu gyrfaoedd mewn pêl-droed, gan ddychwelyd yn aml fel staff ‘intern’ i gefnogi gwaith hyfforddi a datblygu Academi Pêl-droed CAVC.
Y cydbwysedd iawn
- Mae eich athrawon a’ch hyfforddwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau nad yw eich astudiaethau a’ch ymrwymiadau o ran chwaraeon yn gwrthdaro. Rydym yn creu’r cydbwysedd iawn i’ch galluogi i gyflawni eich potensial yn y naill agwedd a’r llall.
Cyfleusterau rhagorol
- Mae Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC) yn hyb perfformiad cyflawn, gyda meysydd chwarae glaswellt, 3G a 4G o’r safon orau, ynghyd â champfa fawr a chromen chwaraeon o’r radd flaenaf, sy’n sicrhau y gellir cynnal sesiynau hyfforddiant a gemau trwy gydol y flwyddyn.
- Mae llety ar gael i fyfyrwyr o bell sy’n dymuno ymuno â CAVC ac un o’n hacademïau.
Hyfforddiant arbenigol proffesiynol
- Hyfforddiant pêl-droed proffesiynol bob wythnos
- Mae gan y pennaeth pêl-droed drwydded UEFA Pro, ac mae gan 3 hyfforddwr y Drwydded UEFA A.
Cryfder a chyflyru proffesiynol a chymorth cynhwysfawr
- Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru sy’n sicrhau rhaglen ddatblygu bersonol ar gyfer bob chwaraewr.
- Cyngor ynghylch maetheg a seicoleg.
- Dadansoddi perfformiad ar lefel tîm ac unigol.
Gornestau cystadleuol
- Gornestau cystadleuol o safon uchel, gyda charfan yr Academi Pêl-droed yn chwarae ar ben yr adran, yn erbyn colegau blaenllaw yng Nghymru a Lloegr.
- Cymryd rhan mewn twrnameintiau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys twrnamaint Ysgolion Caerdydd a’r Fro, a Chwpan CB Ysgolion Cymru.
Partneriaethau proffesiynol
- Partneriaeth gref gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cardiff City House of Sport, yn rhannu cyfleusterau yng Nghampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.
- Yn edrych dros CP Dinas Caerdydd, ac yn gweithio mewn cydweithrediad ar sawl rhaglen.
- Wedi sefydlu cyswllt gyda CP Benfica, sy’n darparu’r cyfle i Academi Pêl-droed CAVC fynychu’r gwersyll hyfforddi tywydd poeth am bythefnos bob blwyddyn.
- Amgylchedd cefnogol sy’n caniatáu i chi barhau i chwarae pêl-droed domestig gyda’ch clwb dewisedig.
David Adams - Cyfarwyddwr Technegol, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Yr amgylchedd dysgu yn Academi Pêl-droed CAVC sydd wrth wraidd yr hyn sy’n sylfaenol iddi, ac mae’n rhoi cyfle i bob myfyriwr ddatblygu a chael ei herio, ynghyd â chael cyflawni, p’un a yw hynny ar y maes chwarae neu yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r cyfuniad o addysg a dylanwad cryf pêl-droed yn gyfuniad pwerus, sy’n caniatáu i unrhyw bêl-droediwr uchelgeisiol gyflawni ei botensial, o safbwynt academaidd, ac mewn pêl-droed. CAVC yw un o golegau sylfaenol y rhaglen Colegau Ffocws, ac mae’n dal i fod yn flaenllaw yn nhermau hyfforddi, cyfleusterau, ei raglen gemau ynghyd ag addysg.
Cysylltiadau cyflym
Newyddion
Newyddion