Mae Academïau Chwaraeon Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu eu tymor gorau erioed yng Ngwobrau Chwaraeon CCAF 2024.
Mae blwyddyn academaidd 2023-24 wedi bod yn flwyddyn eithriadol i Academïau Chwaraeon CCAF. Mae nifer y dysgwyr sy’n cymryd rhan yn yr academïau chwaraeon yn parhau i gynyddu, mae nifer y tlysau sydd wedi’u hennill yn golygu mai hon yw blwyddyn chwaraeon fwyaf llwyddiannus y Coleg erioed, ac mae nifer y dysgwyr sy’n ennill anrhydeddau rhanbarthol a chenedlaethol yn wirioneddol ragorol.
Enillodd yr Academi Pêl Pasged bum pencampwriaeth, gan gynnwys creu hanes drwy ddod y tîm cyntaf o Gymru i ennill Pencampwriaeth Chwaraeon Cymdeithas y Colegau yn ei hanes o 44 o flynyddoedd, a dyrchafiad yn y gynghrair. Hefyd enillodd yr Academi Pêl Fasged y drydedd Bencampwriaeth yn olynol i Golegau Cymru a Chynghrair Bêl Fasged y Colegau yn Rhanbarth y De.
Cymhwysodd yr Academi hefyd ar gyfer gemau ail gyfle dyrchafiad CBL, gan drechu London Riverside yn rownd derfynol y gemau ail gyfle i ennill dyrchafiad i adran uchaf cynghrair pêl fasged y colegau. Enillodd hefyd y Bencampwriaeth Golegol 3x3 gyntaf. Hefyd enillodd 3ydd tîm yr Academi Pêl Fasged Gynghrair Cymru AOC – ei drydydd tro yn olynol i ennill y gynghrair hon.
Cynrychiolodd chwaraewyr yr Academi Pêl Fasged, Luca Basini James, Panos Nikolaidis, Onanefe Atufe, Jabba Macaraig, Josephe Jennings, Francesco Barberis a Mia Morgan, Gymru ar lefel dan 17, a chwaraeodd Trystan Maciver a Paddy Whitestone dros Gymru ar lefel dan 19. Cynrychiolodd Onanefe Atufe Brydain Fawr ar lefel dan 18 hefyd.
Tymor 2023 i 2024 yw un o’r rhai mwyaf llwyddiannus hyd yma i Academi Pêl Droed CCAF.
Roedd Tîm Cyntaf y Dynion yn cystadlu yn eu hail dymor yng nghynghrair uchaf bosibl y DU, ar ôl cyfnod o ddysgu llawer iawn yn ystod Blwyddyn 1. Fe heriodd Tîm Cyntaf Categori Un y Dynion bob rhwystr ac ennill teitl Uwch Gynghrair ECFA.
Daeth y llwyddiant hwn yn dilyn dod yn Bencampwyr 7 Bob Ochr Cymru yn gynharach yn ystod y flwyddyn, gan roi cyfle i’r timau gystadlu yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol i fyny yn Nottingham. Cyrhaeddodd Tîm Cyntaf y Dynion rownd gynderfynol Cwpan Cymru yn y Drenewydd hefyd, a rownd gogynderfynol Cwpan Cenedlaethol ECFA, gyda mwy na 100 o golegau yn cystadlu yn y gystadleuaeth hon.
Roedd y Tîm Categori 3 / Datblygu hefyd yn bencampwyr eu cynghrair, gan ennill y Gynghrair Ranbarthol heb eu trechu o gwbl, a hefyd cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Rhanbarthol – gan orffen yn ail.
Bu Tîm y Merched yn cystadlu yn nhwrnamaint 7 Bob Ochr Pencampwriaeth Cymru gan wneud yn dda iawn yn y gystadleuaeth honno a chyrraedd rownd yr wyth olaf.
Bu chwaraewyr o’r Academi Bêl Droed, Finn Roberts, Will de Sousa a Josh Stephens, yn chwarae i Ysgolion Cymru neu Golegau Cymru y tymor hwn hefyd.
Daeth Academi Rygbi Merched CCAF yn ail yng ngrŵp peilot Cystadleuaeth Merched WSC y Dwyrain, a chafwyd perfformiadau cryf yn nhaith 7 Bob Ochr Rosslyn Park yn Llundain, gan ennill tair allan o bedair gêm pŵl a cholli’r cyfle o drwch y blewyn i symud ymlaen oherwydd gwahaniaeth pwyntiau. Cyrhaeddodd y chwaraewyr rowndiau terfynol Cystadleuaeth 7 Bob Ochr yr Urdd hefyd.
Cafodd y chwaraewraig Katie Sims ei galw i grŵp chwaraewyr Llwybr Rygbi Cymru yng Nghanolfan Datblygu Chwaraewyr Dwyrain Cymru. Yn y cyfamser, chwaraeodd Niamh Padmore, Madeleine Jones, Rhoswen James, Lara Young, Lili Corrihons, Riley Stanger, Grace Sexton, Neave Rudkin, Megan Hunt, Elodie O’Carrol a Rya Caveill i Rygbi Caerdydd yn eu gradd oedran.
Cafodd Academi Rygbi’r Dynion flwyddyn eithriadol hefyd. Cyrhaeddodd y Tîm Cyntaf y rownd gynderfynol yng Nghwpan A y Rhanbarth a gorffen yn 4ydd yng Nghynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru. Dewiswyd yr Academi hefyd i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Ysgolion y Byd yng Ngwlad Thai – twrnamaint mawreddog a chafwyd perfformiadau gwych ganddynt ochr yn ochr ag ysgolion rygbi blaenllaw o bob rhan o’r byd, gan gynnwys dau dîm da iawn o Dde Affrica.
Fe fethodd y Tîm Datblygu â sicrhau lle yn rownd derfynol y Gynghrair Datblygu gyda thafliad darn o arian i ddewis yr enillwyr oherwydd gêm gyfartal yn erbyn Coleg Gŵyr. Ar ôl y Nadolig, ni lwyddodd unrhyw dîm i drechu’r Tîm Datblygu a nhw oedd y coleg cyntaf i ennill Cwpan Datblygu Ysgolion a Cholegau Cymru gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Goleg Gwent.
Chwaraeodd Lewis Jones, Callum Donoghue-Proud, Luke Jones, Luke Caple, Tom Hughes, Fin Hart, Ben Bora ac Ellis Richards i dîm Rygbi dan 18 Caerdydd, a bu Matthew Culverhouse yn cynrychioli Bristol Bears yng Nghynghrair Academi Dan 18 yr Uwch Gynghrair.
Mae Academi Pêl Rwyd CCAF wedi cael tymor llwyddiannus yng nghynghrair y colegau – gyda’r garfan yn cynyddu mewn niferoedd a’r chwaraewyr yn cystadlu’n galed drwy gydol y flwyddyn, gan fwy nag ennill eu lle yn ôl yn y gynghrair. Er eu bod wedi cael ambell golled ar hyd y ffordd, daeth yr Academi Pêl Rwyd â’r tymor i ben yn gryf gyda buddugoliaeth fawr gartref.
Bu’r Academi Pêl Rwyd hefyd yn cystadlu yn yr Urdd a Cholegau Cymru, a dod i frig y pŵl yn y ddau a symud ymlaen i gystadlu am y cwpan. Yn anffodus, trechwyd y tîm o drwch y blewyn yn rownd yr wyth olaf yn y ddwy gystadleuaeth, ond mae cyrraedd y lefel hon a chystadlu yn erbyn timau sydd wedi hen ennill eu plwyf yn dyst i’r gwaith caled a’r ymroddiad y mae’r chwaraewyr wedi’i ddangos drwy gydol y tymor.
Yn y gwobrau, enillodd David Williams y wobr i Fyfyriwr Elitaidd a Pherfformiad y Flwyddyn sydd ddim mewn Academi. David yw Pencampwr Byd Taekwondo y Prifysgolion yn 2024 yn y categori dan 72kg. Mae hefyd wedi ennill Pencampwriaeth Prydain ddwywaith, yn ogystal ag ennill Pencampwriaethau Cymru a Lloegr ar sawl achlysur.
Mae David wedi cyflawni hyn i gyd wrth gwblhau’r cyrsiau Chwaraeon Lefel 1 a Lefel 2 ac mae bellach ar fin cwblhau’r cwrs Diploma Estynedig mewn Chwaraeon yn llwyddiannus. Y flwyddyn nesaf bydd David yn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth.
Aeth y wobr i Athletwr y Flwyddyn o blith y Myfyrwyr i Gyd-gapten yr Academi Pêl Fasged, Lance Macaraig.
Mae Lance wedi rhagori yn, ar gyfer ac ar ran y Coleg yn ystod blwyddyn academaidd a thymor pêl fasged 2023 i 2024. Mae wedi dangos ymrwymiad rhagorol yn gyson i’w astudiaethau ac mae’n aelod gweithgar o’r Rhaglen Ysgolheigion. Hefyd cyfunodd Lance ei hoffter o fathemateg a phêl fasged drwy ei brosiect estynedig: gwerthuso cynrychiolaeth lleiafrifoedd mewn chwaraeon, a oedd yn cynnwys data amrywiol a dadansoddiad ystadegol.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Fe hoffwn i longyfarch ein henillwyr ni a phob un o’n chwaraewyr ni yn yr Academïau Chwaraeon. Fe ddylid canmol y gwaith caled a’r ymroddiad rydych chi i gyd wedi’i wneud eleni i sicrhau cydbwysedd rhwng eich astudiaethau â’ch ymrwymiad i hyfforddi a chymryd rhan hyd eithaf eich gallu yn eich dewis gamp, ac rydych chi wedi gwneud pob un ohonom ni’n falch iawn.
“Fe hoffwn i hefyd longyfarch a diolch i holl dimau hyfforddi gwych yr academïau a staff ehangach y Coleg sydd wedi cefnogi ein chwaraewyr ni drwy gydol y flwyddyn.”
Mae Academïau Chwaraeon CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio ystod o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Maen nhw’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno hyfforddiant o’r radd flaenaf a chyfleusterau chwaraeon gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall y chwaraewyr wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.
Diddordeb mewn ymuno ag Academi Chwaraeon yn CCAF? Gallwch gofrestru diddordeb nawr yn y cyfnod cyn i’r tymor ddechrau – ewch i https://cavc.ac.uk/cy/sportsacademies i gael rhagor o wybodaeth.