Mae Capten Academi Bêl Droed Coleg Caerdydd a’r Fro Jack Pascoe wedi cael ysgoloriaeth lawn gan Goleg Casper yn Wyoming, UDA.
Ar ôl dwy flynedd lwyddiannus yn cyfuno BTEC ac addysg bêl droed, bydd Jack yn astudio gradd mewn Rheoli Busnes a hefyd yn chwarae i dîm pêl droed newydd y coleg.
Penderfynodd y llanc 18 oed o’r Barri na fyddai’n mynd i goleg nac ysgol arall, er mwyn dod i CAVC i gael bod yn fyfyriwr ac athletwr, gan astudio BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon a Rhagoriaeth. Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg, mae Jack wedi cyfuno cynrychioli CAVC gyda chwarae i sgwad DVP Tref y Barri.
Yn ystod ei ddwy flynedd gyda CAVC, mae Jack wedi arwain yr Academi Bêl Droed i dair rownd derfynol yn y cwpan, ac ail le yng Nghynghrair ECFA yn 2018-19. Eleni, ni chafodd yr Academi ei threchu o gwbl ac roedd ar fin ennill y gynghrair pan ddaeth y tymor i ben cyn cael ei gwblhau oherwydd y pandemig.
Hefyd mae Jack wedi cynrychioli Ysgolion Cymru D18 ac wedi chwarae am y tro cyntaf gyda Thref y Barri yn Uwch Gynghrair Cymru.
Dywedodd Pennaeth Pêl Droed CAVC Jamie Sherwood: “Rydw i’n eithriadol falch o’r llwybr y bydd Jack yn ei ddilyn ac mae’n glod mawr i’n rhaglen ni y bydd yn symud dros Fôr yr Iwerydd gyda chyfle oes. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Jack ar y cae ac yn yr ystafell ddosbarth.
“Daeth yn gapten yn gynnar yn ei flwyddyn gyntaf yn CAVC gan fod ei agwedd aeddfed at hyfforddi a’i rinweddau arwain cadarn yn ei wneud yn ddewis amlwg a ’wnaeth e ddim siomi ei hun, aelodau eraill y tîm na’r rhaglen.”
Bydd Jack yn teithio allan i Wyoming ddiwedd mis Gorffennaf, os bydd y cyfyngiadau teithio’n caniatáu, er mwyn dechrau hyfforddi cyn i’r tymor agor.
“Rydw i’n gyffrous am brofi diwylliant a ffordd o fyw newydd,” meddai Jack. “’Dyw’r math yma o gyfle ddim yn codi’n aml a doedd dim posib i mi ei wrthod.
“Mae gan y coleg raglen newydd ac mae ganddi ddisgwyliadau gyda llawer o’r prif chwaraewyr yn ymuno â fi. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau arni a chyfarfod aelodau eraill y tîm ar gyfer y tymor sydd i ddod.”
Mae Jack yn ddiolchgar am y profiadau mae’r Academi Bêl Droed wedi’u rhoi iddo.
“Fe wnes i ddechrau fy siwrnai fel athletwr a myfyriwr yn CAVC ac mae wedi dysgu cymaint i mi amdanaf fy hun, ar ac oddi ar y cae,” esboniodd. “Roeddwn i’n synnu pan gefais i’r gapteiniaeth ac roedd yn foment falch iawn i mi pan wnes i ei derbyn eto am yr ail flwyddyn.
“Mae’r hyfforddwyr yn CAVC wedi fy ngwthio i bob amser i wella fy hun ac maen nhw’n rhoi ffocws unigol ar y chwaraewyr er mwyn ein helpu ni i ennill hyder a gwella ar y cae. Fe fyddwn i’n argymell CAVC i rywun sy’n gadael yr ysgol ac sydd eisiau dilyn addysg a phêl droed gyda’i gilydd.”
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ein Hacademi Bêl Droed ac i gofrestru eich diddordeb.