Dros wyliau’r Pasg cafodd 18 o ddysgwyr o Academi Bêl Droed CAVC brofiad unwaith mewn oes o flasu sut beth yw bywyd i bêl droediwr proffesiynol yn un o glybiau mwyaf Ewrop.
Yn ystod yr ymweliad addysgol unigryw, a ariannwyd drwy Erasmus, treuliodd y dysgwyr ddeg diwrnod ar leoliad gwaith Ewropeaidd yng Nghlwb Pêl Droed Benfica yn Lisbon, Portiwgal. Yn ystod yr ymweliad cawsant brofi bywyd fel pêl droediwr proffesiynol, dysgu sut mae clwb proffesiynol yn gweithredu, profi diwylliant y rhanbarth gan ymweld â safleoedd ar draws y brifddinas, a gweithio gydag eraill o bob rhan o'r byd.
Roedd yr ymweliad yn gyfle hefyd i’r dysgwyr brofi sesiynau hyfforddi yn y cyfleuster o’r radd flaenaf yma a chwarae mewn pedair gêm yn erbyn chwaraewyr o wledydd eraill – gan roi perfformiadau rhagorol, gyda dwy fuddugoliaeth, un gêm gyfartal ac un golled.
Gweithiodd y grŵp yn dda gyda'i gilydd, gydag eraill yn ystod y lleoliad gwaith a chynrychioli’r y coleg yn wych.
Dywedodd Pennaeth Pêl Droed CAVC, Lee Kendall: “Roedd hwn yn gyfle unwaith mewn oes i 18 o chwaraewyr ein Hacademi Bêl Droed ni fyw a gweithio fel chwaraewyr pêl droed proffesiynol a gweld sut mae clwb proffesiynol yn gweithredu. Fe ddangosodd y dysgwyr undod a gweithio’n dda fel grŵp, ac roedd y profiad hefyd yn gyfle iddyn nhw wella eu sgiliau cymdeithasol, nid yn unig o fewn eu grŵp eu hunain ond wrth gwrdd â phobl newydd o wahanol wledydd hefyd.
“Fe gafodd y dysgwyr deithiau tywys o amgylch Lisbon hefyd i ddysgu am ddiwylliant y ddinas ac fe fuon nhw’n gwylio gêm yn yr Uwch Gynghrair, Sporting Lisbon yn erbyn Santa Clara.
“Roedd y trip yn llwyddiant ysgubol a chysylltodd nifer o’r rhieni â’r Coleg i ddiolch i’r staff am y profiad.”
Yn dilyn hynny mae grŵp o ddysgwyr benywaidd sy’n astudio darpariaeth CAVC gyda Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd wedi ymweld â CAVC hefyd a’i gynrychioli.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Yn CAVC rydyn ni’n credu’n gryf ein bod ni’n darparu profiadau dysgu real er mwyn creu pobl fedrus a chyflogadwy – dydi amgylcheddau realistig ddim yn ddigon. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn real.
“Mae’r lleoliad gwaith yma gyda Chlwb Pêl Droed Benfica yn enghraifft wych o roi blas i’n dysgwyr ni ar fywyd yn gweithio mewn clwb proffesiynol, a fydd yn eu helpu nhw i sicrhau dealltwriaeth o yrfaoedd yn y gamp maen nhw mor hoff ohoni. Mae hefyd yn gyfle gwych i brofi diwylliannau eraill ac i ddysgu oddi wrthyn nhw.”