Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Nod y cymhwyster Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru yw datblygu hyder a sgiliau wrth ddefnyddio mathemateg bob dydd a mynd i’r afael â thasgau cyffredin fel cyllidebu a phrosiectau DIY, yn ogystal â pharatoi ar gyfer y sgiliau a ddefnyddir mewn meysydd galwedigaethol fel adeiladu; letygarwch ac iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwch yn astudio 3 phrif faes:

  • Sgiliau rhif a chyfrifo
  • Siâp a mesur
  • Dehongli data a chyflwyniadau graffigol

Bydd arholiad ar ddiwedd y cwrs a byddwch yn derbyn tystysgrif ac yn ennill cymhwyster cydnabyddedig.

Asesir y cymhwyster hwn drwy osod tasgau a thrwy greu portffolio dysgwr.

Mae dosbarthiadau ar gael o Lefel Mynediad 1 i Lefel 2 ac yn cychwyn fis Medi, Ionawr ac Ebrill.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.