Ydych chi wedi bod allan o addysg ers peth amser, dros 19 mlwydd oed, ac â diddordeb mewn gwella eich sgiliau Digidol Mathemateg, neu Saesneg? Mae’r cwrs Profiad Dysgu 3 mewn 1 yn rhoi’r cyfle i chi fentro’n ôl i’r byd addysg mewn ffordd ddifyr.
Yn ystod y sesiwn, byddwch yn cymryd rhan mewn gemau Mathemateg hwyliog a syml, cael cyfle i ymchwilio rhai gwefannau, yn ogystal â chwarae gemau geiriau. Byddwch hefyd yn cwrdd â’r tiwtoriaid sy’n cynnal ein cyrsiau hirach, 11 wythnos, mewn Addysg Sylfaenol i Oedolion.
Yn ystod y sesiwn 2 awr, byddwch yn cymryd rhan mewn ymarferion sgiliau sylfaenol Digidol, Mathemateg, a Chyfathrebu (Saesneg Iaith). Mae’r rhain wedi eu trefnu i fod yn hwyliog ac yn hygyrch i bawb.
Bydd Mathemateg yn cynnwys gêm o bingo, adnabod siapiau, ac adeiladu siapiau 3D.
Bydd Saesneg yn cynnwys darllen i ddeall a diffiniadau geiriau.
Bydd Sgiliau Digidol yn cynnwys ‘Sut i archebu Gwyliau ar-lein’ a phrofiad siopa ar-lein.
Ffi Cofrestru: £0.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gallwch fynd ymlaen i un neu ragor o gyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion lle byddwch yn astudio tuag at gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.