Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn? Dysgwyr sy’n oedolion.
Bydd y cwrs Llythrennedd Digidol yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau sy’n eich galluogi i fyw, dysgu a gweithio yn ein cymdeithas ddigidol.
Gellir defnyddio’r sgiliau hyn ar ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.
Byddwch yn:
- dangos sut i ryngweithio’n ddiogel yn
- ddigidol gwybod beth yw ystyr ôl troed digidol
- gallu trefnu a storio gwybodaeth ddigidol
- gallu dewis gwybodaeth ddigidol
- gwybod sut y gall cydweithio digidol fod yn ddefnyddiol wrth gyflawni tasg
- gallu creu adnodd digidol amlgyfrwng
- gwybod sut all llythrennedd digidol ymestyn cyfleoedd dysgu
Caiff y cymhwyster ei asesu drwy asesiad dan reolaeth. Bydd dysgwyr yn cwblhau hyn wrth fynychu’r coleg, dan amodau a oruchwylir.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bwriad cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw cefnogi dysgwyr wrth iddynt geisio gwella eu sgiliau rhifedd, llythrennedd, digidol a chyflogadwyedd. Dylai cyflawni’r cymwysterau hyn wella hyder a chymhelliant dysgwyr, a bydd y sgiliau maent yn eu hennill yn werthfawr wrth ddysgu, gweithio ac mewn bywyd yn gyffredinol yn y dyfodol.