Sgiliau Saesneg i Oedolion EL2 - L1

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Nod y cwrs yw datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â chyrsiau eraill, sicrhau gwaith a datblygu eich gyrfa. Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu, yn gwella eich hyder a’ch cymhelliant.

Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn gwella eich sgiliau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â gramadeg, atalnodi a sillafu. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu llythyrau ffurfiol, erthyglau a thaflenni. 

Mae dosbarthiadau ar gael o Lefel Mynediad 1 i Lefel 2 ac yn cychwyn fis Medi, Ionawr ac Ebrill.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.