Rygbi Merched
Mae Academi Rygbi Merched CAVC yn darparu’r platfform perffaith i ferched 16-19 oed sy’n chwaraewyr rygbi talentog, sydd â diddordeb mewn perfformiad a rygbi ar lefel elitaidd.
Mae aelodau’r Academi’n chwarae gornestau rheolaidd gyda chynghreiriau’r Gymdeithas Colegau a Cholegau Rygbi’r Undeb Cymru a digwyddiadau WRU. Darparwn gyfleusterau hyfforddiant, a chysylltiadau rhagorol, ynghyd â chymorth cynhwysfawr diguro sy’n eich galluogi i gyflawni eich potensial. Mae gennym hanes ardderchog o lwyddiant, gyda nifer o chwaraewyr yn cael eu dewis i gynrychioli Cymru ar lwyfan y Chwe Gwlad.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Y cydbwysedd iawn
- Mae eich athrawon a’ch hyfforddwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau nad yw eich astudiaethau a’ch ymrwymiadau o ran chwaraeon yn gwrthdaro. Rydym yn creu’r cydbwysedd iawn i’ch galluogi i gyflawni eich potensial yn y naill agwedd a’r llall.
Hanes o lwyddiant
- Dewiswyd sawl chwaraewr i gymryd rhan yn y Twrnamaint Chwe Gwlad Dan 18 i Ferched cyntaf erioed yn yr Alban.
- Yn ei blwyddyn gyntaf, mae’r Academi Rygbi Menywod yn CAVC wedi gweld 13 o’i chwaraewyr yn cymryd rhan mewn timau rhanbarthol Dan 18, chwe chwaraewr yng Ngharfan Genedlaethol Weider, a bydd dau chwaraewr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Rygbi Cyffwrdd Ewrop.
Cyfleusterau rhagorol
- Parc yr Arfau: calon rygbi rhanbarthol a lleoliad â phroffil uchel ar gyfer rhai gornestau cartref yn ystod y tymor.
- Campfa Perfformiad Uchel Gethin Jenkins yn ein Campws yng Nghanol y Ddinas: un o’r cyfleusterau gorau o’i fath ar gyfer datblygu cryfder a chyflyru.
- Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC) a Pharc y Gamlas yng Nghampws Canol y Ddinas: gyda meysydd chwarae o’r safon orau, ynghyd â chromennau chwaraeon o’r radd flaenaf, sy’n sicrhau y gellir cynnal sesiynau hyfforddiant a gemau trwy gydol y flwyddyn.
- Mae llety ar gael i fyfyrwyr o bell sy’n dymuno ymuno â CAVC ac un o’n hacademïau.
Hyfforddiant arbenigol proffesiynol
- Hyfforddiant rygbi proffesiynol bob wythnos.
- Tîm hyfforddi o’r safon orau, gan gynnwys Hyfforddwr Rygbi Merched Lefel 4 gyda dros 6 blynedd o brofiad, ynghyd â thîm o hyfforddwyr arbenigol.
Cryfder a chyflyru proffesiynol a chymorth cynhwysfawr
- Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru sy’n sicrhau rhaglen ddatblygu bersonol ar gyfer bob chwaraewr.
- Mynediad i sesiynau ffisiotherapi wythnosol, ynghyd ag amrywiaeth o gymorth o safbwynt gwyddor chwaraeon, fel maetheg, seicoleg a dadansoddi perfformiad.
Gornestau cystadleuol
- Hyd at 20 gornest yng Nghynghrair Colegau Cymru a Phrydain bob tymor.
- Cymryd rhan mewn twrnameintiau â phroffil uchel.
- CAVC yw’r Coleg sy’n Bartner Swyddogol i Rygbi Caerdydd: sydd o fudd o ran proffil chwaraewyr a chyfleoedd i gamu ymlaen.
- Amgylchedd cefnogol sy’n caniatáu i chi barhau i chwarae rygbi domestig gyda’ch clwb dewisedig.