Mae Academi Rygbi Menywod Coleg Caerdydd a'r Fro wedi dechrau'n dda yn ei blwyddyn gyntaf gyda phedwar chwaraewr wedi'u dewis i gymryd rhan yn Nhwrnamaint cyntaf erioed Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Fenywod dan 18 oed yn yr Alban.
Mae Gabby Healan, Katy Hudd, Rachel Thomas-Evans a'r dewis drwy ganiatâd, Grace Bellamy, wedi’u dewis ar gyfer y garfan yn y twrnamaint wythnos o hyd gyda gêm hyfforddi yn erbyn Ffrainc, ac anrhydeddau rhyngwladol llawn yn erbyn yr Eidal ac Iwerddon. Enillodd tîm Cymru bob un o'r tair gêm.
"Cafodd y gemau eu ffrydio ar YouTube ac roedd yr awyrgylch yn y stadiwm ar gyfer y gemau yn drydanol, roedd gweld ein myfyrwyr yn canu Anthem Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn anhygoel – roedd yn foment falch i’r garfan ac i'r hyfforddwr,” Dywedodd Gavin Gallagher, Swyddog Hwb Rygbi CAVC.
“Erbyn hyn rydym wedi goroesi ein gemau rygbi rhyngwladol cyntaf ar gyfer menywod ac mae'n rhaid i mi ddweud mai dim ond dechrau ein taith yw hyn. Mae'r merched yn gweithio arnyn nhw eu hunain yn gyson ac yn datblygu. Mae’r sesiynau yn y gampfa am 7am a’r sesiynau sgiliau am 8am yn talu ar eu canfed, ac mae momentwm a phenderfyniad pob aelod o'r garfan yn wych ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at dymor 2022-23.
“Mae prosesau recriwtio ac ysgogi rygbi menywod y rhanbarth wedi datblygu'n aruthrol.”
Dywedodd un o'r chwaraewyr, Gabby Healan: "Chwarae am y tro cyntaf erioed i dîm dan 18 Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oedd y profiad gorau erioed, ond doedd o ddim yn hawdd! Roedd yr hyfforddiant a'r ffordd o fyw yn her ar adegau, ond rhoddodd gipolwg go iawn i mi ar sut y gallai fy ngyrfa rygbi edrych.
"Roedd mynd i ffwrdd i'r Alban gyda holl aelodau’r tîm yn ffordd wych i bob un ohonom ddod yn agosach – fe wnaethom chwerthin gymaint ac rydw i'n bendant wedi gwneud ffrindiau am oes. Gobeithio y caf gyfle arall y flwyddyn nesaf – mae mor gyffrous meddwl lle alla i fynd yn y dyfodol."
Mae Academïau Chwaraeon CAVC yn darparu'r llwyfan perffaith ar gyfer myfyrwyr ifanc, ymroddedig sydd â diddordeb mewn perfformio a rygbi ar lefel elitaidd. Mae'r Academïau'n rhoi llawer o bwyslais ar gydbwyso perfformiad chwaraeon â chyflawniad addysgol ac mae CAVC wedi ymrwymo i gefnogi chwaraewyr gyda'r ddau.
Yn ei flwyddyn gyntaf, mae’r Academi Rygbi Menywod yn CAVC wedi gweld 13 o’i chwaraewyr yn cymryd rhan mewn timau rhanbarthol dan 18, chwe chwaraewr yng Ngharfan Genedlaethol Weider, a bydd dau chwaraewr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Rygbi Cyffwrdd Ewrop.
"Ni allaf bwysleisio digon fod cyflawniadau'r chwaraewyr wedi bod yn wych am y flwyddyn gyntaf,” meddai Gavin.