Wedi'i ariannu ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Economaidd Llywodraeth y DU, bydd y bŵtcamps ymarferol hyn yn sicrhau bod eich gyrfa ar lwybr cyflym. Gan ddarparu'r sgiliau angenrheidiol a'ch cysylltu chi gyda chyflogwyr mewn ystod o wahanol sectorau gyda chyfleoedd cyflogaeth cynyddol.
Prun ai ydych chi'n awyddus i ailhyfforddi, uwchsgilio, dychwelyd i gyflogaeth neu eich bod wedi graddio'n ddiweddar, gallwch gael budd o'r rhaglenni hyn sy'n cael eu gyrru gan ddiwydiant, er mwyn rhoi hwb i'ch potensial o ran gyrfa. Gallwch ennill sgiliau digidol y mae galw mawr amdanynt gyda'r hyfforddiant hwn sydd wedi'i wirio gan gyflogwyr, ac sydd â sgiliau a hyfforddiant cyflogadwyedd yn rhan greiddiol ohono, fel eich bod yn barod i ddechrau ar eich gyrfa a chymryd mantais lawn o'r cyfleoedd cynyddol sydd ar gael yn y farchnad swyddi ranbarthol.
Mae tri o’n bwtcampau wedi’u llunio’n benodol ar gyfer graddedigion prifysgol. Mae ein bwtcampau Mentrwch i’r Byd Digidol, Mentrwch i’r Byd Dadansoddeg Data a Mentrwch i’r Byd Seiberddiogelwch ar gyfer y rhai sydd wedi graddio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Os ydych yn berson graddedig sy’n byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gallech fod yn gymwys.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Bŵtcamp re/Start Peirianneg Gwmwl AWS | L3 Llawn Amser | 8 Gorffennaf 2024 | Ar-lein |
Mentro i Ddadansoddeg Data | L3 Rhan Amser | 22 Gorffennaf 2024 | Lleoliad Cymunedol |
Mentro i Ddigidol | L3 Rhan Amser | 22 Gorffennaf 2024 | Lleoliad Cymunedol |
Mentro i Seiberddiogelwch | L3 Rhan Amser | 22 Gorffennaf 2024 | Lleoliad Cymunedol |
Sgiliau digidol ar gyfer Bŵtcamp Busnes | L3 Rhan Amser | Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. | Lleoliad Cymunedol |