Bŵtcamp re/Start Peirianneg Gwmwl AWS

L3 Lefel 3
Llawn Amser
8 Gorffennaf 2024 — 27 Medi 2024
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Cyflwynir gan SkyAcademy, rhaglen hyfforddiant datblygu gweithlu yw re/Start AWS, sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y cwmwl ac yn eich cysylltu â darpar gyflogwyr.

Amserlen darpariaeth:

Cynhelir y cwrs am 12 wythnos yn llawn amser rhwng Dydd Llun - Dydd Gwener bob wythnos, 9am - 5pm. Darperir hyn drwy ddysgu cyfunol drwy ystafell ddosbarth rithiol ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb.

Nid oes angen cefndir ym maes technoleg ac mae’r rôl yn canolbwyntio ar helpu pobl ddi-waith, pobl heb ddigon o waith, newidiadau gyrfa neu bobl sy’n dychwelyd ac yn awyddus i lansio gyrfa newydd ym maes peirianneg gwmwl.

Trwy waith cwrs a labordai ymarferol, gan ddefnyddio senarios bywyd go iawn, gallwch ennill y sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch ar gyfer cael mynediad i rolau cwmwl lefel ganol. Mae re/Start AWS hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau proffesiynol i chi gan gynnwys creu ac adolygu CV, a hyfforddiant cyfweliad i’ch paratoi ar gyfer cyfarfodydd cyflogwyr a chyfweliadau swydd yn y dyfodol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae cwricwlwm re/Start AWS wedi’i addasu ar eich cyfer chi, bydd yn asesu ble rydych chi ar eich taith ddysgu, amcanion rydych chi’n awyddus i'w cyflawni a’ch arddull dysgu.

Trwy ymarferion ar sail senario a sesiynau dan arweiniad hyfforddwr, byddwch yn datblygu sgiliau Linux, Python, rhwydweithio, diogelwch, cronfa ddata, awtomeiddio a sgiliau craidd y Cwmwl AWS. 

Yn ogystal â hyn, byddwch yn cwblhau’r hyfforddiant angenrheidiol i gael y cyfle i sefyll yr arholiad ar gyfer yr ardystiad Ymarferydd Cwmwl AWS - man cychwyn hanfodol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dechrau gyrfa ym maes y cwmwl.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant penodol i swydd ar gyfer rolau fel arbenigwr cymorth technegol, gweinyddwr systemau ac arweinydd awtomeiddio cwmwl hyd at beiriannydd seilwaith a mwy.

Addysgu ac Asesu

Cynhelir asesiadau wythnosol, yn asesu eich presenoldeb a’ch gwybodaeth wrth ymdrin â phob pwnc.

Cynhelir ymarferion arholiadau ac asesiadau ymarferol yn ystod y bŵtcamp, a byddwch yn sefyll yr arholiad Ymarferydd Cwmwl AWS, a fydd yn eich galluogi i ennill eich ardystiad AWS ar ôl cwblhau’r bŵtcamp.

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y Bŵtcamp hwn a bydd ymgeiswyr yn cael eu dethol ar ôl cyfweliad ar y ffôn gyda’r darparwr. Mae'r Bŵtcamp wedi cael ei ddylunio gydag ystyriaeth arbennig i’r unigolion canlynol: 

  • Di-waith 
  • Tangflogedig
  • Unigolion sydd wedi newid gyrfa neu sy’n dychwelyd i yrfa 

Nid oes angen cefndir technegol ar gyfer y rhaglen hon, ond rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig dros yrfa ym maes technegol er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfle.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ oed ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Ni all ymgeiswyr fod mewn addysg llawn amser. Ar gyfer ymgeiswyr ar Fisa bydd angen i chi hefyd lanlwytho eich fisa/dogfennau fel y gallwn gadarnhau eich hawl i weithio ar ôl cwblhau'r bŵtcamp.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Gorffennaf 2024

Dyddiad gorffen

27 Medi 2024

Llawn Amser

35 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GPEXAWSP01
L3

Cymhwyster

AWS Cloud Engineering re/Start Bootcamp

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Bydd pob ymgeisydd sy’n cwblhau pob asesiad yn llwyddiannus yn ystod y bŵtcamp yn cael gwarant cyfweliad ar gyfer swydd gwmwl lefel mynediad gydag un o nifer o sefydliadau technoleg llwyddiannus Cymru.

Mae graddio o’r bŵtcamp hefyd yn rhoi cynllun datblygu personol i chi, sy’n cynnwys eich camau nesaf unigryw i barhau â’ch dysgu.

Yn ychwanegol, bydd pob myfyriwr graddedig llwyddiannus yn cael cefnogaeth uniongyrchol gan AWS, gan gynnwys deunyddiau dysgu am ddim, i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr ardystiad AWS nesaf petaech yn dymuno parhau â’ch addysg y tu hwnt i’r bŵtcamp.