I ymgeisio, cliciwch y botwm ‘Ymgeisio Nawr’ uchod i gael eich ailgyfeirio i dudalen gwe Darogan Talent. Mae Darogan yn gwmni recriwtio graddedigion arbenigol fydd yn gallu eich arwain a’ch cefnogi drwy’r broses ymgeisio. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1af Gorffennaf 2024.
Rhennir y Bŵtcamp hwn yn ddau fodiwl fel a ganlyn:
Modiwl Un: Hanfodion Seiber / Diogelu drwy Ddylunio
Modiwl Dau: Offer ac Ymarferion Seiber / Methodolegau Ymosod
Law yn llaw â hyn, bydd cyfranogwyr yn elwa o weithdai cyflogadwyedd wedi’u teilwra. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau cyfweld, rhwydweithio, paratoi CV a phroffilio swydd ddisgrifiad.
Yn ogystal â hyn, byddwch yn cael mynediad at siaradwyr gwadd o’r diwydiant, yn ogystal â sesiynau mentora un i un.
Hyfforddiant wyneb yn wyneb yn y dosbarth. Nid oes asesiad ffurfiol nag arholiad.
Ochry n ochr â hyn, bydd cyfranogwyr yn elwa o weithdai cyflogadwyedd wedi’u teilwra. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau cyfweld, rhwydwithio, paratoi CV a phroffilio disgrifiadau swydd. Yn ogystal â hyn, bydd gennych fynediad i siaradwyr gwadd o’r diwydiant yn ogystal â sesiynau mentora un-i-un.
Ar ôl cwblhau’r Bŵtcamp hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael eu cofrestru gyda’r Cyngor Seiberddiogelwch ac yn derbyn tystysgrif cwblhau gan y Hyb Arloesedd Seiber.
Mae'r Bŵtcamp hwn wedi'i gynllunio ar gyfer graddedigion prifysgol ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr fod wedi graddio o fewn y 2 flynedd ddiwethaf i gael eu hystyried ar gyfer y cwrs hwn.
Bydd graddedigion o bob pwnc gradd yn cael eu hystyried ar gyfer y Bŵtcamp hwn, ar yr amod eu bod yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg.
Bydd yr holl recriwtio ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei wneud gan yr asiant recriwtio graddedigion arbenigol Darogan Talent. Byddant yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i sgrinio am gyllid ac yn cynnal gweithgaredd sgrinio cyn y cwrs i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.