Rhaglenni hyfforddiant llwybr carlam i oedolion

Ydych chi'n awyddus i blymio i yrfa mewn sector galw uchel gyda chyfleoedd enfawr ar gyfer cyflogaeth a thwf?

Mae ein Bŵt-camps a’n cyrsiau byr wedi’u cynllunio i roi hwb i’ch gyrfa ac maent yn cwmpasu ystod o sectorau cyffrous, o’r Diwydiannau Creadigol i Weithgynhyrchu Uwch, Sero Net a Chynaliadwyedd i Ddigidol.

Wedi’u hariannu’n llawn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae ein Bŵt-camps dwys a’n cyrsiau byr yn agored i bawb – p’un a ydych wedi dychwelyd i’ch gyrfa, newydd adael addysg, neu’n weithiwr proffesiynol profiadol sy’n dymuno newid gyrfa.

Mae ein cyrsiau byr yn cael eu harwain gan y diwydiant ac wedi’u cynllunio i’ch uwchsgilio mewn meysydd penodol, ac mae’r Bŵt-camps wedi’u gwirio gan gyflogwyr ac wedi’u tanategu gan sgiliau cyflogadwyedd a hyfforddiant. Mae'r rhaglenni hyn wedi'u teilwra i ddatblygu sgiliau presennol a newydd mewn sectorau blaenoriaeth i helpu i ddiwallu anghenion cyflogwyr a hybu cyfleoedd gyrfa.

Darperir yr holl gyrsiau trwy gydol y flwyddyn mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Rhanbarth Caerdydd a'r cyffiniau.


Gwybodaeth Cymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.