Ydych chi'n raddedig diweddar sy'n awyddus i blymio i fyd cyffrous dadansoddi data?
Mae’r rhaglen Bŵtcamp Dadansoddeg Data mewn Busnes wedi’i dylunio ar gyfer graddedigion diweddar i’w helpu i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â sgiliau a sicrhau cyflogaeth yn y sector Dadansoddeg Data.
Ar draws y sesiynau teilwredig hyn a gyflwynir gan Iungo Solutions, byddwch yn datblygu sgiliau dehongli, dadansoddi a chyfathrebu gan ddefnyddio data. Ochr yn ochr â hyn, cewch gyfle i fynychu gweithdai cyflogadwyedd, sgiliau cyfweld a rhwydweithio i annog cyflogaeth neu ddyrchafiad ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Amserlen Cyflwyno:
Mae hwn yn gwrs rhan-amser ar gyfer graddedigion diweddar a bydd yn rhedeg 4 diwrnod yr wythnos am 3 wythnos rhwng 9:30am a 4:30pm.
I ymgeisio, cliciwch y botwm ‘Ymgeisio Nawr’ uchod i gael eich ailgyfeirio i dudalen gwe Darogan Talent. Mae Darogan yn gwmni recriwtio graddedigion arbenigol fydd yn gallu eich arwain a’ch cefnogi drwy’r broses ymgeisio.
Drwy gydol y rhaglen byddwch yn anelu tuag at Gymhwyster Lefel 3 Agored Cymru mewn Dadansoddi Data, ac mae’r modiwlau’n cynnwys:
Law yn llaw â’r modiwlau hyn ceir hyfforddiant ar gyflogadwyedd a fydd yn cynnwys cyfleoedd i rwydweithio a hyfforddiant un-i-un.
Cyflwynir y sesiynau mewn ystafell ddosbarth ac asesir drwy waith drwy gydol y rhaglen gan arwain at Gymhwyster Lefel 3 mewn Dadansoddi Data. Mae yna arholiad Power BI ar-lein hefyd.
Mae'r Bŵtcamp hwn wedi'i gynllunio ar gyfer graddedigion prifysgol ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr fod wedi graddio o fewn y 2 flynedd ddiwethaf i gael eu hystyried ar gyfer y cwrs hwn.
Bydd graddedigion o bob pwnc gradd yn cael eu hystyried ar gyfer y Bŵtcamp hwn, ar yr amod eu bod yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.