Ydych chi’n raddedig diweddar sy’n awyddus I blymio I fyd cyffrous technoleg?
Wedi'i gyflwyno gan Tramshed Tech a'r Big Learning Company, mae'r cwrs hwn yn cwmpasu ystod amrywiol o fodiwlau i roi'r offer sydd eu hangen arnoch i ddeall hanfodion y sector hwn. Bydd sgiliau fel Rheoli Prosiectau a Phrosesau Digidol hefyd yn cael eu harchwilio i’ch helpu i ddeall sut y gellir rhoi’r wybodaeth Ddigidol hon ar waith yn y gweithle. Ochr yn ochr â hyn, cewch gyfle i fynychu gweithdai cyflogadwyedd, sgiliau cyfweld a rhwydweithio i annog cyflogaeth neu ddyrchafiad ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Amserlen Cyflwyno:
Bydd y Bŵtcamp hwn yn rhedeg 4 diwrnod yr wythnos am 3 wythnos rhwng 9:30am – 4:30pm.
I ymgeisio, cliciwch y botwm ‘Ymgeisio Nawr’ uchod i gael eich ailgyfeirio i dudalen gwe Darogan Talent. Mae Darogan yn gwmni recriwtio graddedigion arbenigol fydd yn gallu eich arwain a’ch cefnogi drwy’r broses ymgeisio.
Mae’r bŵtcamp hwn wedi cael ei ddylunio i gynnig y ddamcaniaeth wrth wraidd technolegau digidol a sut y cânt eu cymhwyso’n ymarferol yn y gweithle. Astudir y pynciau canlynol:
Addysgir y modiwlau ochr yn ochr â’r gweithdai ar reoli prosiect a rhwydweithio, gyda chlinigau sgiliau ac adolygiadau cyfoedion rheolaidd. Yn ogystal â hyn, byddwch yn cael mynediad at siaradwyr gwadd o’r diwydiant, yn ogystal â sesiynau mentora un i un i ddarparu canllawiau cyflogadwyedd.
Hyfforddiant ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb. Nid oes asesiad ffurfiol nac arholiad.
Mae'r Bŵtcamp hwn wedi'i gynllunio ar gyfer graddedigion prifysgol ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr fod wedi graddio o fewn y 2 flynedd ddiwethaf i gael eu hystyried ar gyfer y cwrs hwn.
Bydd graddedigion o bob pwnc gradd yn cael eu hystyried ar gyfer y Bŵtcamp hwn, ar yr amod eu bod yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg.
Bydd yr holl recriwtio ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei wneud gan yr asiant recriwtio graddedigion arbenigol Darogan Talent. Byddant yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i sgrinio am gyllid ac yn cynnal gweithgaredd sgrinio cyn y cwrs i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.