BEng (Hons) mewn Peirianneg Awyrennau

L6 Lefel 6
Llawn Amser
17 Medi 2024 — 12 Mehefin 2027
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y radd hon, sy’n cael ei chynnig mewn partneriaeth â Phrifysgol Kingston, a’i dyfarnu gan Brifysgol Kingston, yn eich rhoi ar ben ffordd er mwyn dod yn beiriannydd cynnal a chadw awyrennau a rheolwr cynnal a chadw yn y dyfodol.

Bydd eich astudiaethau’n cynnwys darlithoedd damcaniaethol manwl, sy’n cyfuno profiad ymarferol o ailosod offer a chydrannau awyrennau, arolygu, monitro cyflwr, a chanfod a chywiro diffygion. Byddwch yn dod yn gyfarwydd ag amgylchedd gweithio awyrennau a'r gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â'r diwydiant hedfan masnachol.

Dyma’r unig radd yn y DU sy’n adlewyrchu gofynion cyrsiau wedi’u cymeradwyo gan CAA Part-147, ac sydd wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol gan ei bod yn bodloni gofynion cofrestriad IEng gyda’r Cyngor Peirianneg.

Sut i Wneud Cais: Gallwch wneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS.  Bydd y botwm cymorth ‘Gwneud Cais Nawr' yn mynd â chi i’r dudalen cwrs UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod y Cwrs – AG01, Cod y Sefydliad – C16, Cod y Campws - D, Enw’r Campws – Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT)

Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ochr yn ochr â modiwlau academaidd, modiwlau seiliedig ar waith sy’n cynnig profiad ymarferol ichi o ailosod offer a chydrannau awyrennau, arolygu, monitro cyflwr, a chanfod a chywiro diffygion. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o’r amgylchedd gwaith a’r gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i weithredu awyren fasnachol. Byddwch hefyd yn cael mynediad anghyfyngedig i’n Hefelychwyr Hedfan o’r radd flaenaf, er mwyn gwella eich profiad dysgu.

Mae’r cwrs yn mynd i’r afael â’r holl ofynion gwybodaeth a fanylir ym maes llafur Categori B1.1 CAA (Rhan 66), trwydded peirianneg cynnal a chadw awyrennau, yn ogystal â’r cyfle i sefyll yr holl arholiadau modiwl B1.1 CAA ar y campws. Mae’n eich cyflwyno i sgiliau ymarferol a chynnal a chadw, a’n rhoi cyfleoedd ichi ymarfer a datblygu’r sgiliau hyn.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio’n benodol i’ch rhoi ar y trywydd iawn ar gyfer gyrfa fel peiriannydd cynnal a chadw awyrennau yn y diwydiant hedfan. Bydd yn rhoi’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddod yn rheolwr cynnal a chadw yn y dyfodol.

Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys:

Mathemateg a Ffiseg ar gyfer Peirianwyr Ymarferol
Hanfodion Peirianneg Drydanol
Aerodynameg a Systemau Electronig a Digidol Awyrennau
Sgiliau Astudio Addysg Uwch a Datblygiad Personol
Mae modiwlau’r ail flwyddyn yn cynnwys:

Deunyddiau, Caledwedd a Chynnal a Chadw Awyrennau
Awyrennau a’u Systemau
Sgiliau Peirianneg Ymarferol a CAD
Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Peirianwyr Awyrennau
Mae modiwlau’r drydedd flwyddyn yn cynnwys:

Peiriannau Tyrbin a Thermodynameg
Ymarferion Cynnal a Chadw Awyrennau
Prosiect Unigol (Awyrennau IEng)
Economeg Trafnidiaeth Awyrol
Byddwch hefyd yn cael cyfle i hyfforddi yn ein hardal Tyrbinau Nwy, sy’n gartref i ystod o Beiriannau Tyrbin Nwy, gan gynnwys peiriant ‘Rolls Royce RB211 Triple Spool High Bypass ratio’, ‘Avon Turbojet’ a pheiriannau ‘Ardour Twin Spool Low By-pass ration’.

Bydd y sgiliau rydych yn eu hennill yn gwella eich rhagolygon gyrfa, a’ch galluogi i gwblhau astudiaethau pellach at lefel Meistr a thu hwnt.

Mae dulliau asesu’n cynnwys: Aseiniadau ysgrifenedig, asesiad ymarferol yn seiliedig ar waith, arholiadau ysgrifenedig ac astudiaeth annibynnol dan arweiniad.ynnol o dan arweiniad.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £9,250.00

Gofynion mynediad

Y cymwysterau mynediad safonol gofynnol ar gyfer y rhaglen yw:

96 pwynt tariff UCAS o dair lefel A sy’n cynnwys Mathemateg a Gwyddoniaeth (ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Lefel A iaith frodorol) o 96 pwynt tariff UCAS o gymhwyster BTEC neu EAL Lefel 3 Diploma Cenedlaethol Estynedig mewn pwnc peirianneg (MMM), sy’n cynnwys Mathemateg Bellach ar gyfer mynediad i astudio Peirianneg ar lefel Diploma AU gyda 45 credyd ar lefel 3, sy'n cyfateb i isafswm o 96 pwynt tariff, mewn pwnc Peirianneg. Unedau Mathemateg a Ffiseg wedi'u graddio â Rhagoriaeth.

Hefyd: Pump TGAU gradd A* i C gyda Saesneg Iaith, Mathemateg a phwnc gwyddoniaeth neu dechnoleg yn orfodol. Ni dderbynnir TGAU iaith frodorol, Sgiliau Allweddol Lefel 2 Cyfathrebu a Chymhwyso Rhifau, ac IGCSE Saesneg fel Ail Iaith. Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad peirianneg a chynnal a chadw awyrennau milwrol a/neu sifil neu sydd wedi cwblhau cyrsiau peirianneg awyrennau galwedigaethol yn cael eu hystyried yn unigol. Mae angen isafswm sgôr System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol (IELTS) o 6.0 (lleiafswm 5.5 mewn Siarad, Ysgrifennu, Gwrando a Darllen) neu gyfwerth ar gyfer y rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

17 Medi 2024

Dyddiad gorffen

12 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

13 awr yr wythnos

Lleoliad

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

AERH6F10
L6

Cymhwyster

BEng Honours Aircraft Engineering L4-6

Wedi'i achredu gan:

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

123,000

Mae diwydiant Awyrofod y DU yn parhau i fod yn ail ar lwyfan y byd a’r mwyaf yn Ewrop, gyda throsiant o £35 biliwn, 123,000 o weithwyr uniongyrchol a 3,900 o Brentisiaid.

Gall graddedigion un ai symud ymlaen at addysg Ôl-raddedig, neu ennill cyflogaeth fel peirianwyr cynnal a chadw awyrennau / technegwyr, goruchwylwyr cynnal a chadw awyrennau, a rheolwyr rhaglen ar gyfer cyflogwyr fel Boeing, Leonardos, Ryan Air, British Airways, Virgin Atlantic, KLM UK Engineering, a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, wedi'u cyflogi un ai fel technegwyr neu beirianwyr sifilaidd neu filwrol, yn gweithio ar yr awyrennau mwyaf cymhleth yn y diwydiant hedfan. Oherwydd amrywiaeth beirianyddol y llwybr gradd hwn, ni fyddwch wedi’ch cyfyngu i’r diwydiant hedfan. Mae ôl-raddedigion wedi dod o hyd i waith o fewn disgyblaethau peirianneg eraill, fel trafnidiaeth, mecanyddol / trydanol / electronig a’r diwydiant gofod.  

Lleoliadau

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT), 
Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd, 
Y Rhws, 
Bro Morgannwg, 
CF62 3DP