Peirianneg Awyrenegol

L3 Lefel 3
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cwrs dwy flynedd hwn, sy'n cyfateb i ddwy Safon Uwch, yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol sydd â diddordeb mewn Gwyddoniaeth Awyrofod a’r Diwydiant Awyrennau gan gynnwys Peirianneg Gyffredinol. Bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth graidd sy’n ofynnol i weithio fel ffitiwr awyrennau neu beiriannydd didrwydded yn y diwydiant hedfan. Mae'r cwrs yn rhoi cyfle gwych i chi ddysgu am bynciau awyrennau amrywiol gan gynnwys systemau awyrennau, deunyddiau a chaledwedd, a gwthio i'ch rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes awyrofod.

Mae'r cwrs tua 20 awr yr wythnos dros gyfnod o ddwy flynedd ac mae ganddo'r gofynion gorfodol o ennill gwybodaeth, sgiliau llaw ymarferol mewn cymhwysedd mecanyddol a thrydanol/afionig yn ogystal â'r cyfle am o leiaf 5 wythnos o brofiad gwaith gorfodol ym mlwyddyn 2.

Rhennir y cwrs dros ddwy flynedd, ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf, bydd y myfyriwr wedi cyflawni cymhwyster Diploma Lefel 3 a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Technolegau Peirianneg Awyrofod ac ar ôl cwblhau’r ail flwyddyn yn llwyddiannus bydd y myfyriwr yn derbyn dyfarniad Diploma Estynedig mewn Technolegau Peirianneg Awyrofod. 

Yn ddelfrydol, bydd gan ymgeiswyr rywfaint o wybodaeth a sgiliau sylfaenol mewn cynhyrchu neu beirianneg cynnal a chadw eisoes, sy'n fwyaf tebygol o'r ysgol yn ystod astudiaethau technegol / gweithdy neu o brofiad gwaith.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Tra byddwch ar y cwrs hwn byddwch yn astudio:

Blwyddyn 1 - Diploma mewn Peirianneg

  • Peirianneg ac iechyd a diogelwch amgylcheddol (9 credyd)
  • Effeithlonrwydd a gwelliant sefydliadol peirianneg (9 credyd)
  • Mathemateg Peirianneg (10 credyd)
  • Egwyddorion Trydanol ac Electronig (10 credyd)
  • Technegau dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) (10 credyd)
  • Egwyddorion peirianneg fecanyddol (10 credyd)
  • Theori Hedfan adain sefydlog P (10 credyd) 
  • Gweithdrefnau cynnal a chadw a pheirianneg gweithgynhyrchu (10 credyd) 

Dilyniant yn unig yw Blwyddyn 2 - Diploma Estynedig mewn Peirianneg Awyrennol

  • Mathemateg peirianneg bellach (10 credyd)
  • Peiriannau tyrbin nwy awyrennau adain rotor (10 credyd)
  • Systemau Awyrennau 
  • Radio a radar 
  • Gweithdrefnau cynnal a chadw awyrennau a pheirianneg gweithgynhyrchu (10 credyd)
  • Cynnal a chadw strwythurau awyrennau (10 credyd)
  • Perfformio Gweithrediadau Peirianneg

*Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gwblhau o leiaf 5 wythnos o brofiad gwaith gorfodol

I ddatblygu eich sgiliau ymarferol byddwch yn cynnal awyrennau JetStream a Bulldog CAVC yn ogystal â datblygu eich sgiliau llaw i gyflawni gweithgareddau trwsio strwythurol mecanyddol a thasgau gweithdai.  

Asesir y cymhwyster trwy gyfuniad o wybodaeth a ddyfeisiwyd gan ganolfan ac asesiadau ac aseiniadau ymarferol sy’n mynd i’r afael â’r pynciau y manylir arnynt yng nghynnwys y cwrs. Bydd eich sgiliau llaw yn y gweithdy yn cael eu hasesu a’u marcio’n barhaus. 

Gofynion mynediad

Ymgeiswyr sydd ag o leiaf 5 TGAU - Gradd A* i C neu gyfwerth, neu raddau cyfwerth arfaethedig posib. Yn cynnwys A* i C mewn pwnc Mathemateg neu Wyddoniaeth, Ffiseg os yn bosibl.

Hefyd:

  • Yn frwdfrydig, â chymhelliant i weithio mewn amgylchedd peirianneg
  • Parodrwydd i ymgymryd â chwrs o hyfforddiant dwys
  • Byddai rhai sydd wedi cwblhau profion mewn sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol, sydd ag ymwybyddiaeth ofodol

Yn gymwys i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn.

Addysgu ac Asesu

Asesir y cymhwyster gan gyfuniad o asesiadau ac aseiniadau ymarferol sydd wedi'u cynllunio gan y ganolfan sy'n ymdrin â'r pynciau a nodwyd yng nghynnwys y cwrs. Bydd eich sgiliau dwylo yn y gweithdy yn cael eu hasesu a'u marcio'n barhaus.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

AERH3F01
L3

Cymhwyster

Aeronautical Engineering

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

123,000

Mae diwydiant Awyrofod y DU yn parhau i fod yn ail ar lwyfan y byd a’r mwyaf yn Ewrop, gyda throsiant o £35 biliwn, 123,000 o weithwyr uniongyrchol a 3,900 o Brentisiaid.

Wedi i chi ei gwblhau'n llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i Brentisiaeth, Addysg Uwch neu gyflogaeth lle rhoddir hyfforddiant ymarferol penodol. 

Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, byddwch wedi cyflawni cymhwyster Diploma Atodol Lefel 3 a gydnabyddir yn genedlaethol.  Yn ogystal, gallech ystyried ymuno â'r Awyrlu Brenhinol neu'r Llynges Frenhinol i ddod yn beiriannydd neu beilot awyren.

Lleoliadau

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT), 
Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd, 
Y Rhws, 
Bro Morgannwg, 
CF62 3DP