Ychwanegiad at Radd HND, BEng (Anrh) mewn Peirianneg Awyrennau gan Brifysgol Kingston

L6 Lefel 6
Llawn Amser
17 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Ynghylch y cwrs hwn

Ydych chi’n meddu ar gymhwyster HND mewn Peirianneg Awyrofod? Os ydych, dyma gwrs delfrydol i ychwanegu i’ch cymwysterau presennol gyda gradd anrhydedd o Brifysgol Kingston, a addysgir yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar ein Campws ICAT.


Bydd y cwrs hwn yn eich cymhwyso i Lefel 6 ac yn cynnwys archwilio i berfformiad peiriannau awyrol adenydd llonydd ac adenydd cylchdro, gan werthuso eu strwythurau, a defnyddioldeb deunyddiau mewn cyd-destun hedfan.


Byddwch yn astudio egwyddorion economegol trafnidiaeth awyrol gan ystyried sut mae hynny yn llywio cynlluniau ar gyfer prosiectau a mapio, yn ogystal â phenderfyniadau ar lefel reoli. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiectau unigol a grŵp fydd yn ymwneud â thestunau perthnasol ynglŷn â’r diwydiant.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Economeg Cwmnïoedd Hedfan, 30 Credyd – Nod y modiwl hwn yw cymharu trafnidiaeth awyrol wahanol gydag eraill yn y sector, gan ystyried sut maent yn gweithredu ac yn gwneud elw neu golled.

Technoleg Awyrofod, 30 Credyd – Cynlluniwyd y modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr o ystod eang o raglenni sy’n ymwneud ag awyrofod. Mae’n darparu dealltwriaeth o sut mae egwyddorion aerodynameg, gyriant, strwythurau, a gwyddorau deunydd, yn llywio ffurfweddiad a pherfformiad peiriannau awyrol adenydd sefydlog ac adenydd cylchdro.

Prosiect Unigol (Awyrennau IEng)30 CredydNod modiwl y Prosiect Unigol yw darparu’r myfyriwr â chyfle i wneud argraff gadarnhaol. Gan weithio ar destun o’u dewis nhw, bydd disgwyl i’r myfyriwr gwblhau tua 300 awr o waith annibynnol, er mwyn gwerthuso problem a chanfod y datrysiad gorau a/neu’r cam gweithredu mwyaf priodol ar ei chyfer. Dylid gwneud hyn yn annibynnol, gan ddefnyddio cyn lleied o arweiniad allanol â phosib. Gellir cyflawni’r gwerthusiad mewn amrywiaeth o ffyrdd, o gymharu, mewn manylder, nifer o ddatrysiadau posib sydd eisoes wedi eu canfod, i gasglu a chymharu data damcaniaethol ac arbrofol. Yn ddelfrydol, dylai’ch pwnc dewisol ymwneud â pheirianneg neu gynnal awyrennau.

Gweithdrefnau Cynnal Awyrennau, 30 Credyd Nod y modiwl yw annog dysgu annibynnol a datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn cael swydd uwch o fewn y diwydiant hedfan: yn enwedig yn y maes cynnal awyrennau. Felly, mae’n cynnig cyfle delfrydol i chi ddatblygu ac arddangos nifer o’ch sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.

Bydd y modiwl yn archwilio'r hyn sy’n llywio costau cynnal a chadw o fewn y diwydiant, gan gynnwys y broses cymorth logistaidd o fewn cwmnïau hedfan a strategaethau cymorth logistaidd ar y cyd, cyn symud ymlaen i archwilio dulliau cynllunio prosiectau. Fel rhan o grŵp, bydd rhaid i chi ddarparu datrysiad cynnal a chadw cost effeithiol ar gyfer cwmni hedfan. Disgwylir i chi fel grŵp ddarparu manylion megis llwybrau teithio, amserlenni hedfan a manylion yr awyrennau, etc, gan gynnwys adolygu senario sydd wedi ei ddylunio o flaen llaw, a phenderfynu ar yr union ofynion ar gyfer cynllunio prosiect llwyddiannus. Byddwch yn gwneud hyn drwy adnabod opsiynau a phennu costau drwy ymchwilio a gwerthuso dulliau casglu data, gan ganfod datrysiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth hefyd allu cyflwyno eich canfyddiadau.

Fel rhan o’r prosiect, bydd rhaid cynhyrchu cynllun prosiect, rhoi cyflwyniad fel grŵp, cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig sylweddol, a chadw cofnodion o’r prosiect.  

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £9,250.00

Gofynion mynediad

HND mewn Peirianneg Awyrofod Rhagoriaeth neu Deilyngdod.

Dulliau addysgu ac asesu

Mae’r Radd Ychwanegiadol hon yn cynnwys cyfuniad o arholiadau, ymchwil unigol a chyflwyniadau. 

Cyfleusterau

Wrth astudio’r cwrs yma, bydd gennych fynediad at adnoddau o’r radd flaenaf, gan gynnwys Efelychwyr Hedfan, Efelychwyr Llif Aer, Hyfforddwr System Hydrolig a reolwyd gan PLC, a Hyfforddwr Perfformiad Injan Tyrbin Nwy. Yn ychwanegol, cewch wneud defnydd o 2 awyren turboprop yn ein gweithdy / awyrendy.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

17 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

15 awr yr wythnos

Lleoliad

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

AERH6F20
L6

Cymhwyster

BEng Honours Aircraft Engineering Level 6

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

123,000

Mae diwydiant Awyrofod y DU yn parhau i fod yn ail ar lwyfan y byd a’r mwyaf yn Ewrop, gyda throsiant o £35 biliwn, 123,000 o weithwyr uniongyrchol a 3,900 o Brentisiaid.

Wedi i chi gwblhau’r radd hon, gallwch symud ymlaen i addysg ar lefel Meistr, neu yn syth i gyflogaeth o fewn y diwydiant hedfan ar lefel reoli neu ar lefel gychwynnol ar yr ochr gynllunio.

Lleoliadau

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT), 
Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd, 
Y Rhws, 
Bro Morgannwg, 
CF62 3DP