Peirianneg Awyrenegol

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd newydd adael yr ysgol, gan roi mewnwelediad defnyddiol o’r byd technolegau hedfanaeth, a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau Lefel 3, cyflogaeth neu brentisiaethau. Mae’r cwrs yn cydbwyso theori a dysgu ymarferol i ddarparu’r holl sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar ddarpar fyfyrwyr ac yn cael ei gyflwyno ym mhob rhan o’n campws awyrofod gan gynnwys ystafelloedd dosbarth, awyrendy a’r labordai electroneg/afioneg.

Caiff y cymhwyster ei asesu drwy gyfuniad o e-asesiadau (profion amlddewis ar-lein) ac asesiadau wedi'u llunio gan y ganolfan yn cwmpasu’r pynciau a fanylir arnynt yng nghynnwys y cwrs.

Mae’r cwrs hwn sy’n seiliedig ar theori a dysgu ymarferol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth hanfodol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddod yn dechnegydd neu beiriannydd awyrofod. 

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i arfogi’r rhai sy’n mynd i mewn i’r diwydiant hedfanaeth â’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen fel rhan o’u hyfforddiant fel peiriannydd awyrennau didrwydded.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r unedau ar gyfer y cymhwyster hwn a fydd yn cael eu hastudio yn cynnwys:

  • Iechyd a Diogelwch Peirianneg ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol
  • Technegau Peirianneg
  • Egwyddorion Mathemateg a Gwyddoniaeth
  • Egwyddorion Trydanol ac Electronig
  • Technegau Ffitio a Gosod
  • Mathemateg Peirianneg
  • Sgiliau ar gyfer Awyrofod

Gofynion mynediad

5 TGAU Gradd A* i D i gynnwys Mathemateg A* i C (neu gyfatebol) a Saesneg A* i D. Cymhwyster Peirianneg Lefel 1 addas gyda Gradd A* i C mewn Mathemateg. Bydd angen PPE ar yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cwrs yma, gan gynnwys esgidiau blaen dur ac oferôls.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

AERH2F02
L2

Cymhwyster

Aircraft Engineering

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

123,000

Mae diwydiant Awyrofod y DU yn parhau i fod yn ail ar lwyfan y byd a’r mwyaf yn Ewrop, gyda throsiant o £35 biliwn, 123,000 o weithwyr uniongyrchol a 3,900 o Brentisiaid.

Gall myfyrwyr sy’n cwblhau'r cwrs hwn symud ymlaen i astudio cwrs Is-ddiploma Lefel 3, gwneud cais am Brentisiaeth neu gael swydd.

Lleoliadau

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT), 
Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd, 
Y Rhws, 
Bro Morgannwg, 
CF62 3DP