Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei redeg gan y myfyrwyr ar gyfer y myfyrwyr, i gynrychioli llais pob dysgwr yn y coleg. Mae yma i sicrhau bod y dysgwyr yn cael y profiadau gorau posib tra maen nhw yn y coleg. Hefyd mae'n gallu cynrychioli myfyrwyr yn annibynnol ar system y coleg fel bod gan fyfyrwyr lais bob amser. Mae'r holl ddysgwyr sy'n cofrestru yn y coleg yn dod yn aelodau awtomatig o Undeb y Myfyrwyr. Os nad ydych yn dymuno bod yn aelod, rhaid i chi roi gwybod i ni er mwyn i chi gael optio allan.
Mae dau gynrychiolydd cwrs yng ngrŵp pob cwrs, llawn amser a rhan amser, a'u rôl ydi cynrychioli llais y grŵp hwnnw drwy gasglu barn y dysgwyr, beth sy'n dda yn CAVC, a beth sydd angen ei wella, a mynychu cyfarfodydd y cwrs gyda staff. Un rhan bwysig iawn o'u rôl hefyd ydi adrodd yn ôl unrhyw wybodaeth i grŵp y cwrs, a rhoi gwybod iddynt beth sy'n cael ei wneud am unrhyw faterion maen nhw wedi'u codi. Hefyd bydd cynrychiolwyr y cwrs yn cyfarfod â chynrychiolwyr eraill yn eu Cyfadran unwaith y tymor, ynghyd â Phennaeth y Gyfadaran.
Lleisio eich barn!
Byddwch yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau'r coleg, a dylanwadu arnyn nhw.
Cynrychioli eich cwrs!
Cyfarfod pobl newydd!
Derbyn tystysgrif ar gyfer eich CV!
Hefyd byddwch yn cael hyfforddiant penodol i'ch helpu chi yn eich rôl.
Beth am fod yn Gynrychiolydd Cwrs ac adrodd yn ôl ar farn eich dosbarth i diwtoriaid eich cwrs a thrwy grwpiau ffocws a gweithgareddau. Neu beth am fod yn rhan o'n Hundeb Myfyrwyr - sy'n rhan o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr - gan gynrychioli safbwyntiau yn y coleg ac yn genedlaethol (ac yn rhoi llawer iawn o ostyngiadau a chyfleoedd i fyfyrwyr hefyd!)