Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddylunio i ddysgwyr sydd eisiau cael cyflwyniad i Wasanaethau Cyhoeddus. Bydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu ystod o sgiliau yn y sector gwasanaethau cyhoeddus, ac yn cefnogi cynnydd at astudiaeth bellach.
Unedau Craidd:
A1: Bod yn Drefnus
A2: Datblygu Cynllun Cynnydd Personol
A3: Gweithio gydag Eraill
A4: Ymchwilio i Bwnc
Unedau Dewisol:
PS5: Dysgu am Wasanaethau Cyhoeddus
PS6: Cymryd Rhan mewn Profion Ffitrwydd
PS7: Gwneud Chwiliadau Diogelwch
PS8: Ymateb i Ddigwyddiad
PS9: Cynllunio a Llywio Llwybr
PS11: Cyfrannu i'ch Cymuned
PS12: Cymryd Rhan mewn Gweithgareddau Chwaraeon ac Anturus
Bydd gofyn i chi brynu esgidiau pêl-droed wedi’u mowldio cyn dechrau ar y cwrs, er mwyn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol, sy’n rhan allweddol o’r cwrs. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol gyda’r costau hyn. Mae croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.
3 TGAU A*- E neu gyfwerth
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Yn dilyn y cwrs hwn, gellir mynd ymlaen i'r cwrs NCFE Diploma Lefel 2 ar gyfer Mynediad i’r Gwasanaethau mewn Lifrai.