Bydd Brooke Baker, dysgwr Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn teithio i’r Almaen yr wythnos hon i gynrychioli Cymru mewn Cic-focsio mewn cystadleuaeth Celf Ymladd Ryngwladol (Pencampwriaeth y Byd).
Bydd Brooke, sy’n 16 ac yn dod o’r Barri, yn cystadlu yn y Dosbarth Uwch Cic-focsio (Pwyntiau). Ar hyn o bryd mae hi’n dal teitl Byd, Prydeinig, ICO (International Combat Organisation) a WKO (Sefydliad Cic-focsio’r Byd).
“Rwyf wedi bod yn hyfforddi’n galed tuag at y nod yn y pen draw o fod yr ymladdwr pwyntiau mwyaf adnabyddus ac ysbrydoli ymladdwyr eraill i lwyddo hyd at eithaf eu gallu,” meddai Brooke. “Cefais anaf yn ddiweddar felly rwy’n gobeithio na fydd hynny’n amharu ar fy ngobaith o ennill.”
Dywedodd Pennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Caerdydd a’r Fro. James Young: “Rydym ni i gyd yn dymuno’r gorau i Brooke - mae cystadlu ar lefel mor uchel yn gyflawniad anhygoel ac rydyn ni’n falch iawn ohoni hi.”