Arglwydd Raglaw De Morgannwg yn ymweld â Llu Cadetiaid Cyfunol Coleg Caerdydd a'r Fro

23 Mai 2024

Yn ddiweddar, ymwelodd Arglwydd Raglaw De Morgannwg Ei Fawrhydi, Morfudd Meredith, â Champws y Barri Coleg Caerdydd a’r Fro i gyfarfod ag uned Llu Cadetiaid Cyfunol (CCF) y Coleg a’i harolygu.

Bu’r Arglwydd Raglaw yn arolygu’r CCF pan oeddent yn gorymdeithio. Yn ymuno â hi roedd Prif Swyddog Cadetiaid Cymru, yr Uwchgapten Mark Teesdale, Capten Nigel Stokes o Gatrawd 157, y Corfflu Logisteg Brenhinol, sef y gatrawd y mae’r CCF wedi'i chysylltu â hi, Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Geraint Evans a Jane Hutt, AS Bro Morgannwg, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

“Roedd yn bleser cael cyfle i ymuno â Champws y Barri Coleg Caerdydd a’r Fro, a Llu’r Cadetiaid Cyfunol yn arbennig,” meddai Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg. “Mae’r Cadetiaid yn glod i’w Huned ac roeddwn i'n falch o gael sgwrs gyda phawb a dysgu ychydig bach am eu profiadau fel Cadetiaid a’u gobaith am y dyfodol.

“Diolch o galon am y croeso cynnes a gefais gan Gadeirydd Llywodraethwyr y Coleg, y Pennaeth, y staff a’r disgyblion, a diolch hefyd am y drafodaeth am y cynlluniau cyffroes ar gyfer dyfodol y Coleg. Pob dymuniad da a phob llwyddiant i Goleg Caerdydd a’r Fro a Llu'r Cadetiaid Cyfunol yn y dyfodol.”

Dywedodd Jane Hutt AS: “Roeddwn i'n falch iawn o allu ymuno â Choleg Caerdydd a’r Fro a llongyfarch Llu’r Cadetiaid Cyfunol yno. Roedd yn fraint cael croesawu Arglwydd Raglaw y Brenin, Morfudd Meredith, a gwesteion milwrol sy’n anrhydeddu’r coleg a’r dref drwy chwarae rhan mor bwysig yn ein cymuned.”

Mae CCF CCAF yn ddi-dâl i fyfyrwyr ac yn cynnig pob math o fanteision i ddysgwyr yn y Coleg. Ochr yn ochr â gweithgareddau a heriau cyffrous, bydd cyfleoedd i fynd ar deithiau yn y DU a dramor, yn ogystal â’r gweithgaredd gwersylla blynyddol gyda chadetiaid o ysgolion a cholegau eraill.

Mae maes llafur Tystysgrif Medrusrwydd y Fyddin yn rhoi cyfle i ddysgu amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau arwain, fel y gallu i roi gorchmynion i wneud tasgau, gwneud penderfyniadau dan bwysau, cynllunio a threfnu tasgau a gweithio'n effeithiol fel unigolyn neu fel aelod o dîm. Bydd sgiliau fel y rhain yn ddefnyddiol tu hwnt i bobl ifanc yn ystod eu bywydau a hefyd yn helpu i roi hwb i geisiadau am le mewn prifysgol neu geisiadau am swyddi.

Drwy hyfforddiant y cadetiaid, gallwch ennill cymwysterau eraill hefyd, gan gynnwys Gwobr Dug Caeredin, Diploma Cyntaf BTEC mewn Gwasanaethau Cyhoeddus neu Gerddoriaeth neu’r Dystysgrif ILM mewn Arwain Tîm.

Dywedodd Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans: “Roedd yn bleser croesawu Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg, i Gampws y Barri i gwrdd â Llu Cadetiaid Cyfunol y Coleg. Mae bod yn gadét yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn golygu mwy o lawer na dim ond cymryd rhan mewn gorymdeithiau – maent yn cael cyfle i ddysgu sgiliau byw amhrisiadwy sy'n gallu bod yn berthnasol i unrhyw lwybr gyrfa neu sefyllfa.

“Roedd ymweliad yr Arglwydd Raglaw yn gyfle ardderchog i ddangos i gynrychiolydd y Brenin yn Ne Morgannwg y gwaith rhagorol mae’r CCF yn ei wneud yn paratoi pobl ifanc yn yr ardal am unrhyw her allai ddod i’w rhan yn y dyfodol.”