Mae ffi i'w thalu gyda rhai cyrsiau a chymwysterau proffesiynol a gynigir gan Goleg Caerdydd a'r Fro. Fodd bynnag, eleni (Medi 2023-Awst 2024), mae'r Coleg yn cynnig 'dilead ffioedd' i bob oedolyn sy’n ddi-waith neu'n cael budd-daliadau penodol. Mae hyn yn golygu os gallwch ddangos y dystiolaeth isod, gallwch gael mynediad at y cyrsiau hyn AM DDIM*.
I gael mynediad at y cyrsiau hyn AM DDIM*, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod, ar yr adeg rydych yn ymgeisio am y cwrs:
Nid yw budd-daliadau eraill, gan gynnwys Credyd Pensiwn; Budd-dal Plant; Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor; Tâl Salwch Statudol yn gymwys ar gyfer dilead ffïoedd.
Mae pob cwrs rhan-amser i oedolion sy'n cael eu dangos gyda'r www.cavc.ac.uk eicon £ yn gymwys ar gyfer hyn.
* Noder: Gellir codi ffi gofrestru o £10-40, yn dibynnu ar hyd y cwrs/ nifer y cyrsiau a astudir yn ystod y flwyddyn. Mae rhai cyrsiau hefyd yn gofyn i'r dysgwr dalu am offer ychwanegol/ arholiadau/ cofrestriad proffesiynol i gwblhau'r cwrs a chael cymhwyster. Gellir dod o hyd i fanylion am hyn ar dudalen wybodaeth pob cwrs yn [www.cavc.ac.uk]. Gall cymorth ariannol ar gyfer y costau hyn fod ar gael drwy Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) y Coleg, sef cronfa i gefnogi dysgwyr sy'n wynebu caledi ariannol penodol.
Mae llawer o gyrsiau a gynigir gan CCAF ar gael drwy Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Ariennir Cyfrif Dysgu Personol (PLA) gan Lywodraeth Cymru i helpu i roi hwb i'ch gyrfa. Maent yn syml i'w sefydlu ac yn eich galluogi i fanteisio ar ystod enfawr o gyrsiau a chymwysterau proffesiynol YN RHAD AC AM DDIM.
I gael mynediad at PLA, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod, ar yr adeg rydych yn ymgeisio am y cwrs, yn:
Os ydych yn 19 neu’n hŷn (ar ddechrau’r cwrs hyfforddi), yn byw yng Nghymru a bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, gallech fod yn gymwys:
Nid ydych yn gymwys am PLA os ydych yn iau na 19 oed (ar ddechrau’r cwrs hyfforddi), yn byw y tu allan i Gymru, neu mewn addysg llawn amser, yn ymgymryd â phrentisiaeth neu’n ddi-waith, neu yn derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Nid yw PLA ar gael os ydych yn ddi-waith, mewn addysg neu ddysgu amser llawn ac yn derbyn cyllid GDC neu LCA.
Dangosir yr holl gyrsiau rhan-amser i oedolion y gellir eu cyrchu am ddim trwy PLA ar www.cavc.ac.uk gydag Llyfr. Fel arall, mae rhestr lawn o'r cyrsiau hyn ar gael yn www.cavc.ac.uk/cy/pla
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro hefyd yn cynnig yr holl gyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion (Saesneg, Mathemateg a TG) ac ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill), hyd at ac yn cynnwys Lefel 1, AM DDIM* i bob oedolyn, boed yn ddi-waith neu’n gyflogedig.
I wneud cais am gyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion mewn Saesneg, Mathemateg neu TG ewch i /cy/abe
I wneud cais am gwrs ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ewch i /cy/esolplus
* Sylwer: Gellir codi ffi gofrestru o £10-40, yn dibynnu ar hyd y cwrs/nifer y cyrsiau a astudiwyd yn ystod y flwyddyn. Gall cymorth ariannol ar gyfer y costau hyn fod ar gael drwy Gronfa Ariannol Wrth Gefn y Coleg (FCF), cronfa i gefnogi dysgwyr â chaledi ariannol penodol.
Mae ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid cyfeillgar yma i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ewch i www.cavc.ac.uk a chliciwch ar yr eicon Sgwrsio Byw
Ffoniwch 02920 250 250
Neu e-bost info@cavc.ac.uk
Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro Bolisi Ffioedd. Pwrpas hyn yw amlinellu'r dull o godi ffioedd dysgu a ffioedd eraill ar fyfyrwyr a defnyddwyr Gwasanaethau'r Coleg. Am gopi llawn o'r polisi hwn cliciwch yma.