Newyddion

Datblygiadau newydd, cyflawniadau myfyrwyr a llawer mwy. Dysgwch am ein newyddion diweddaraf.

Helpu arwyr y GIG a gwarchod ein cymuned – Apêl PPE Coleg Caerdydd a’r Fro

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro eisiau cyfraniadau o Offer Gwarchodol Personol (PPE) y bydd yn ei ddosbarthu wedyn i’r GIG ac i weithwyr allweddol ledled y Brifddinas Ranbarth.

Pob pwyth yn ei le i helpu gweithwyr allweddol – Kerry o Goleg Caerdydd a’r Fro yn gwirfoddoli i wnïo dillad meddygol

Mae Darlithydd Ffasiwn a Thecstilau o Goleg Caerdydd a’r Fro, Kerry Cameron, wedi bod yn gweithio’n galed yn gwirfoddoli i greu dillad meddygol i weithwyr allweddol y GIG a sefydliadau gofal.

Dysgwr Moduro yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro Naim yn ennill bwrsari gwerth £2,000 a gwobr Myfyriwr Llawn Amser y Flwyddyn yng Ngwobrau IMI

Mae myfyriwr Ailorffen Cerbydau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro Naim Ahmed wedi cael hwb sylweddol i’w yrfa yn y dyfodol gyda bwrsari gwerth £2,000 gan Gymrodoriaeth y Diwydiant Moduro.

Darlithydd Coleg Caerdydd a’r Fro Tracy yn dychwelyd i nyrsio ar y rheng flaen

Penderfynodd Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Tracy Adams, dynnu’r pwysau oddi ar y GIG ac ildio ei gwyliau Pasg er mwyn dychwelyd i nyrsio yn llawn amser.