Penderfynodd Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Tracy Adams, dynnu’r pwysau oddi ar y GIG ac ildio ei gwyliau Pasg er mwyn dychwelyd i nyrsio yn llawn amser.
Yn gyn Nyrs Arbenigol cyn dod yn un o staff arbenigol y diwydiant yn CCAF, mae Tracy wedi cadw ei chofrestriad gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Cysylltodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro â Tracy ym mis Chwefror yn gofyn a fyddai’n hoffi dychwelyd i nyrsio.
Roedd Tracy yn benderfynol o helpu gymaint â phosib wrth geisio ymdopi hefyd â’i chyfrifoldebau newydd yn ei rôl fel darlithydd ac yn cefnogi ei myfyrwyr. A phan ddaeth gwyliau’r Pasg penderfynodd fynd yn ôl i weithio yn llawn amser ar y rheng flaen.
Yn gweithio ym maes gofal lliniarol, darparodd Tracy ofal nyrsio diwedd oes hanfodol, a rheoli symptomau a chefnogi cleifion angheuol wael nad oedd ysbyty yn opsiwn iddynt. Gweithiodd yn ddiflino ac yn gwbl anhunanol er mwyn nyrsio cleifion yn eu cartrefi.
“Mae hwn wedi bod yn brofiad hynod emosiynol a gwerthfawr fel rhan o fy ngyrfa nyrsio gyfan – ’wna i byth anghofio 2020!” dywedodd Tracy. “Byddaf yn dychwelyd i addysgu nawr bod Tymor yr Haf wedi dechrau wrth gwrs, er mwyn cefnogi’r dysgwyr Mynediad i Nyrsio sydd mor bryderus am sicrhau eu cynigion i fynd i brifysgol fis Medi.
“Cadwch yn ddiogel a dilyn canllawiau’r llywodraeth yn ystod y cyfnod digynsail yma.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Fe hoffem ni i gyd yn CCAF ganmol a diolch i Tracy, a’r holl nyrsys, meddygon, staff y GIG a gweithwyr allweddol eraill, sy’n parhau i weithio’n ddiflino er mwyn ein cadw ni’n ddiogel yn ystod y cyfnod ansicr yma.
“Rydyn ni’n gweld y cymunedau rydyn ni’n eu cynrychioli yn y Brifddinas Ranbarth fel rhai creiddiol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Dyma pam ein bod ni eisiau gwneud ein rhan hefyd.
“Mae’r Coleg yn cysylltu â’n rhwydwaith ni o gyflogwyr a chysylltiadau cymunedol i ganfod Offer Gwarchodol Personol (PPE) y mae ei wir angen ac i sicrhau ei fod ar gael i’r rhai sydd ei angen yn ein cymunedau ni. Fe all unrhyw un helpu.”
Os oes gennych chi stoc o offer gwarchod personol yn eich busnes / meddiant, gallwch ei gyfrannu i CCAF i fod ar gael i staff rheng flaen yn ystod y cyfnod yma. Nid dim ond chwilio am gyfraniadau ydym ni – os ydych chi’n gyflenwr offer gwarchod personol ac os oes gennych chi stoc ar gael nawr ac yn y dyfodol, rhowch wybod i ni. Rydyn ni hefyd eisiau casglu arian i brynu stoc o offer a sicrhau ei fod ar gael i’r rhai sydd ei angen yn ystod y cyfnod yma.
Rydym yn chwilio am:
• Masgiau
• Menig
• Gowns
• Gogls
Yn ddelfrydol byddai’r rhain fel y rhai sy’n cael eu defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd arferol. Fodd bynnag, os oes gennych chi rywfaint o’r cit sy’n cael ei ddefnyddio fel rheol mewn sector gwahanol, er enghraifft, adeiladu neu foduro, gall fod yn werthfawr iawn o hyd i helpu i warchod rhai staff rheng flaen pan mae rhywfaint o warchodaeth yn well na dim.
Mae’r Coleg wedi cyfrannu ein stoc ni o’r uchod sy’n cael eu defnyddio gan staff a myfyrwyr mewn llefydd fel labordai gwyddoniaeth neu weithdai adeiladu / moduro ac arlwyo.
I gyfrannu, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am stoc sydd gennych chi i’w gyfrannu neu i’w gyflenwi i’r Coleg, cysylltwch â ni ar: business@cavc.ac.uk.