Pob pwyth yn ei le i helpu gweithwyr allweddol – Kerry o Goleg Caerdydd a’r Fro yn gwirfoddoli i wnïo dillad meddygol

27 Ebr 2020

Mae Darlithydd Ffasiwn a Thecstilau o Goleg Caerdydd a’r Fro, Kerry Cameron, wedi bod yn gweithio’n galed yn gwirfoddoli i greu dillad meddygol i weithwyr allweddol y GIG a sefydliadau gofal.

Mae Kerry yn rhan o grŵp o 20 o bobl, gan gynnwys athrawon, cynllunwyr gwisgoedd, paentwyr golygfeydd, gwneuthurwyr llenni a gweithwyr sydd wedi ymddeol a ddaeth at ei gilydd ar gyfryngau cymdeithasol i godi £2,000 i wneud 200 o setiau o ddillad meddygol.

Mae’r grŵp wedi llwyddo i roi hwb i’w hymgyrch drwy ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol a chafwyd cyfweliad ar BBC Radio Wales sydd wedi galluogi iddynt gyrraedd carreg filltir gyllido newydd o £6,000. Mae pob set yn costio £10 i’w gwneud ac mae’r grŵp wedi ailosod eu targed i £7,500.

Bu Kerry yn gweithio drwy gydol gwyliau’r Pasg, yn creu’r dillad o gartref gyda help ei mam.

“Hyd yma rydyn ni wedi gwneud 150 o setiau sydd wedi cael eu dosbarthu eisoes ac yn cael eu defnyddio gan y GIG a gweithwyr allweddol,” meddai Kerry. “Hefyd mae 480 o setiau’n cael eu creu ar hyn o bryd.

“Rydyn ni wedi codi £6,195 hyd yma. Po fwyaf fydd pobl yn ei gyfrannu, y mwyaf o setiau fyddwn ni’n gallu eu creu i gefnogi’r GIG a gweithwyr allweddol lleol.

“I wneud defnydd o fy sgiliau a chyfrannaur at gefnogi’r GIG a gweithwyr gofal yn y gymuned roedd jyst yn teimlo y peth iawn i’w wneudd.”

Os hoffech chi gefnogi Kerry a’r tîm i wneud mwy o setiau o ddillad ar gyfer gweithwyr allweddol, ewch i’w tudalen GoFundMe sydd ar gael yma.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rydw i wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan y ffyrdd arloesol mae pobl fel Kerry ac eraill ar draws y Coleg yn defnyddio eu harbenigedd i gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf. Rydw i mor falch ohonyn nhw i gyd.

“Mae CCAF wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a dyma pam rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r cymunedau hynny. Mae’n rhaid i bawb dynnu gyda’i gilydd yn ystod amser fel hyn.

“Dyma pam mae’r Coleg yn cysylltu â’n rhwydwaith ni o gyflogwyr a chysylltiadau cymunedol i ganfod Offer Gwarchodol Personol (PPE) y mae ei wir angen ac i sicrhau ei fod ar gael i’r rhai sydd ei angen yn ein cymunedau ni. Fe all unrhyw un helpu.”

Os oes gennych chi stoc o offer gwarchod personol yn eich busnes / meddiant, gallwch ei gyfrannu i CCAF i fod ar gael i staff rheng flaen yn ystod y cyfnod yma. Nid dim ond chwilio am gyfraniadau ydym ni – os ydych chi’n gyflenwr offer gwarchod personol ac os oes gennych chi stoc ar gael nawr ac yn y dyfodol, rhowch wybod i ni. Rydyn ni hefyd eisiau casglu arian i brynu stoc o offer a sicrhau ei fod ar gael i’r rhai sydd ei angen yn ystod y cyfnod yma.

Rydym yn chwilio am:
• Masgiau
• Menig
• Gowns
• Gogls

Yn ddelfrydol byddai’r rhain fel y rhai sy’n cael eu defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd arferol. Fodd bynnag, os oes gennych chi rywfaint o’r cit sy’n cael ei ddefnyddio fel rheol mewn sector gwahanol, er enghraifft, adeiladu neu foduro, gall fod yn werthfawr iawn o hyd i helpu i warchod rhai staff rheng flaen pan mae rhywfaint o warchodaeth yn well na dim.

Mae’r Coleg wedi cyfrannu ein stoc ni o’r uchod sy’n cael eu defnyddio gan staff a myfyrwyr mewn llefydd fel labordai gwyddoniaeth neu weithdai adeiladu / moduro ac arlwyo.

I gyfrannu, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am stoc sydd gennych chi i’w gyfrannu neu i’w gyflenwi i’r Coleg, cysylltwch â ni ar: business@cavc.ac.uk.